Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rwy'n falch o gyhoeddi fy mod heddiw wedi cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion yn dilyn ein hymgynghoriad cyhoeddus ar Drwyddedu Sefydliadau, Gweithgareddau ac Arddangosfeydd Lles Anifeiliaid, gan gynnwys cŵn rasio.
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 08 Rhagfyr 2023 a daeth i ben ar 01 Mawrth 2024, gyda 1180 o ymatebion wedi dod i law yn ystod y cyfnod 12 wythnos hwn.
Gan adeiladu ar yr alwad flaenorol wedi'i thargedu am dystiolaeth, gyda'i gilydd mae'r rhain yn helpu i ffurfio cam cyntaf datblygiad model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu.
Mae Lles Anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a gwn fod ein huchelgais o ran sicrhau bod pob anifail yng Nghymru yn byw bywyd da yn weledigaeth a rennir. Mae gan ein cynigion ar gyfer model cenedlaethol y potensial i effeithio ar ddatblygiadau gwirioneddol a chadarnhaol i filoedd o anifeiliaid ledled Cymru.
Hoffem ddiolch i’r unigolion, y busnesau, yr elusennau, yr awdurdodau lleol a’r sefydliadau a neilltuodd amser i ystyried yr ymgynghoriad hwn ac i ymateb iddo. Rwyf hefyd yn cydnabod y cryfder o ymdeimlad a ddangosir yn yr ymatebion hynny.
Roedd hwn yn ymgynghoriad eang a sylweddol, ac rydym wedi gwerthfawrogi eich amynedd, wrth i ni weithio i asesu'r barn, yr wybodaeth a'r dystiolaeth a gyflwynwyd. Bydd eich cyfraniad yn amhrisiadwy i helpu i lywio ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf ynghylch y camau nesaf yn y gwanwyn.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.