Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhwng 11 Hydref 2023 a 31 Rhagfyr 2023, cynhaliwyd ymgynghoriad ar y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi'r newid i sero net ar gyfer pob sector yng Nghymru sy'n rhyddhau allyriadau . 

Roedd yr ymgynghoriad yn ymrwymiad allweddol yn ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net, i gasglu'r wybodaeth fanylach sydd ei hangen am wyth sector sydd â lefelau uchel o allyriadau: 

  • Cynhyrchu Trydan a Gwres 
  • Adeiladau Preswyl 
  • Cludiant
  • Y Sector Cyhoeddus 
  • Diwydiant a Busnes 
  • Defnyddio Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth 
  • Amaethyddiaeth 
  • Rheoli Gwastraff a’r Economi Gylchol 

Heddiw, hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at gyhoeddi dogfen sy'n crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad.  

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r 107 o unigolion a sefydliadau a ymatebodd i'r ymgynghoriad ac a roddodd eu hamser i wneud hynny, yn ogystal â'r rhai sydd wedi cefnogi'r gwaith parhaus yn y maes hwn.

Mae ehangder yr adborth a gafwyd o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi darparu ffynhonnell gyfoethog o dystiolaeth sy'n atgyfnerthu ein dealltwriaeth gyfredol o sgiliau sero net, ac yn darparu amrediad eang o atebion ymarferol a nodau tymor hwy a fydd yn cefnogi'r newid polisi sydd ei angen i alluogi sgiliau i fod yn ysgogydd allweddol wrth gyflawni sero-net. 

Rwy'n bwriadu gwneud datganiad pellach ar y camau nesaf gan gynnwys y cynnydd o ran datblygu Mapiau Ffordd Sgiliau ar gyfer y Sector maes o law.