Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Heddiw cyhoeddais grynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar Dargedau Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy.
Fel y nodais wrth lansio'r ymgynghoriad, mae'r argyfwng hinsawdd a'r cynnydd mawr mewn prisiau ynni yn ddiweddar wedi ei gwneud yn glir bod angen rhagor o newidiadau sylweddol i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru. Mae ffynonellau lleol sy'n cyflenwi ynni adnewyddadwy, fforddiadwy a diogel, o fewn cyd-destun rhwydwaith cryf ym Mhrydain Fawr, yn hanfodol i gymdeithas ffyniannus, sero net.
Roedd y dystiolaeth a gyhoeddais ochr yn ochr â'r ymgynghoriad yn gwneud yr her rydym yn ei hwynebu'n glir – ynghyd a'r ffaith bod angen amrediad o dechnolegau arnom a datblygiadau o feintiau gwahanol i wireddu ein huchelgeisiau.
Roeddwn yn falch iawn o weld y gefnogaeth ar gyfer ein huchelgeisiau ar gyfer ynni adnewyddadwy a'r targedau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r targedau'n tanlinellu'r pwysigrwydd rydym yn ei roi ar y degawd nesaf a'r angen inni ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd yn gyflymach byth. Bydd y targedau rydym yn eu pennu yn rhoi sicrwydd i'r sector ynni adnewyddadwy mewn perthynas â'n huchelgeisiau ar gyfer polisïau.
O ran cynhyrchu ynni, yn gyffredinol roedd ymatebwyr yn cytuno â'n cynigion i barhau i ganolbwyntio ar drydan i fodloni'r galw yn y dyfodol, ac i ddefnyddio Llwybr Cytbwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn sail i'n hamcanestyniadau ar gyfer y galw am drydan. Yn dilyn y gefnogaeth a gawsom ar gyfer ein cynnig, rydym yn pennu targed ar gyfer Cymru i gynhyrchu 100% o'r trydan rydym yn ei ddefnyddio bob blwyddyn drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, a pharhau i wneud hynny o hynny ymlaen.
Roedd ein cynigion ar gyfer ynni cymunedol yn tynnu sylw at y pwysigrwydd rydym yn ei roi ar brosiectau lleol ar draws amrediad eang o dechnolegau adnewyddadwy a ddatblygiadau o wahanol meintiau. Rydym yn credu ei bod yn hanfodol bod cymunedau'n elw'n uniongyrchol ar y prosiectau yn eu hardal leol. Gan ddangos ein huchelgais ar gyfer y sector hwn, rydym yn mabwysiadu'r cynnig i o leiaf 1.5GW o gapasiti ynni adnewyddadwy fod o dan berchnogaeth leol erbyn 2023, gan gynyddu ein targed presennol ar gyfer 1GW erbyn 2030.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn tynnu sylw at bryderon ynghylch y ffordd y byddai ein cynigion ar gyfer pympiau gwres yn cael eu mesur, gan y byddai hyn yn gofyn am wybodaeth fanwl am gapasiti nifer uchel o unedau unigol. Roedd yr ymatebion yn nodi manteision defnyddio targed ar gyfer nifer yr unedau, yn hytrach nag ar gyfer capasiti, Gan ystyried y pryderon hyn, rwyf wedi ystyried y dull mwyaf addas ar gyfer pennu targed ar gyfer nifer yr unedau. Rwy'n credu bod y gefnogaeth a gawsom yn y gorffennol ar gyfer mabwysiadu Llwybr Cytbwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd – ynghyd â'r ffaith bod fy Strategaeth Wres sydd yn yr arfaeth hefyd yn defnyddio'r Llwybr Cytbwys – yn golygu mai derbyn eu hamcanestyniadau ar gyfer nifer y pympiau gwres a fydd eu hangen ar Gymru erbyn 2035 yw'r opsiwn gorau. Felly, ein targed yn hyn o beth fydd i 580,000 o bympiau gwres gael eu gosod yng Nghymru erbyn 2035, yn dibynnu ar gymorth gan Lywodraeth y DU a lleihad yng nghost y dechnoleg.
Yn olaf, rwyf wedi bod yn adamant bod rhaid i Gymru fwynhau manteision ein chwyldro ynni adnewyddadwy. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r cynnig hwn, a'r angen i annog buddsoddiadau a gweithgynhyrchu i greu manteision economaidd ar gyfer Cymru yn yr hirdymor. Gwnaeth llawer o ymatebwyr i'r ymgynghoriad nodi pwysigrwydd gwella sgiliau ar draws y sector, yn enwedig ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol; yn enwedig gan y bydd prosiectau o'r fath yn rhoi cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a swyddi lleol, wrth greu incwm a lleihau costau ynni ar yr un pryd. Rwy'n cytuno ac yn credu, ar yr adeg hon, y dylem fabwysiadu'r targed yn yr ymgynghoriad, ac y dylai Llywodraeth Cymru olrhain y twf (trosiant a chyflogaeth) yn y sector ynni carbon isel yng Nghymru gan ddefnyddio’r Arolwg Economi Carbon Isel ac Ynni Adnewyddadwy. Byddwn yn ategu’r data hwn â gwybodaeth gan arweinwyr y diwydiant a sefydliadau cynrychiadol. Byddwn yn defnyddio'r data hwn i fesur llwyddiant ein cynlluniau gweithredu i uwchsgilio'r gweithlu a chefnogi twf economaidd yng Nghymru.
Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnu ar danwyddau ffosil, a chynyddu faint o ynni adnewyddadwy rydym yn ei ddefnyddio fel ffordd o gefnogi sero net a'n cymunedau lleol. Fel y dywedais pan lansiais yr ymgynghoriad hwn, mae pennu'r targedau hyn yn dangos ein huchelgais, ac rwy'n gwahodd pob un ohonoch i weithio gyda ni i wireddu'r weledigaeth hon.