Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio
Mae'n dda gen i gyhoeddi bod crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gyfradd y comisiwn ar gartrefi mewn parciau wedi ei gyhoeddi. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol o'r wybodaeth ariannol gan berchnogion safleoedd.
Mae rhaniad clir a chyson rhwng sylwadau preswylwyr a pherchnogion y parciau gyda'r rhan fwyaf o'r preswylwyr yn cefnogi lleihau neu ddileu'r gyfradd i'w thalu tra bo holl berchnogion y safleoedd am ei gweld yn parhau ar y gyfradd uchaf gyfredol o 10%.
Mae'r crynodeb yn amlinellu'r camau nesaf yn dilyn yr ymarferiad helaeth hwn. Ar ôl ystyried y sylwadau a'r dystiolaeth a gyflwynwyd, dyma nodi fy mwriad i ddechrau lleihau cyfradd y comisiwn yn raddol dros gyfnod o amser.
Rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno nifer o gynigion sydd wedi'u cynllunio i gefnogi systemau rheoli da yn y sector ac i sicrhau bod gan y bobl hynny sy'n prynu ac yn gwerthu cartrefi mewn parciau wybodaeth glir a chyson i'w helpu wrth wneud penderfyniadau.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar maes o law.
Mae crynodeb o'r ymatebion a'r adolygiad ariannol ar gael i'w gweld yma:
https://beta.llyw.cymru/cyfradd-y-comisiwn-ar-gartrefi-mewn-parciau