Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Crynodeb o'r ymatebion i Gais am Dystiolaeth y Papur Gwyrdd ar greu llwybr tuag at Dai Digonol - gan gynnwys Rhenti Teg a Fforddiadwyedd.
Cyhoeddwyd Cais am Dystiolaeth y Papur Gwyrdd ar greu llwybr tuag at Dai Digonol – gan gynnwys Rhenti Teg a Fforddiadwyedd - ar 6 Mehefin 2023 a daeth i ben ar 15 Medi 2023. Derbyniodd y Papur Gwyrdd 371 o ymatebion cyflawn.
Roedd y Papur Gwyrdd yn gais am dystiolaeth er mwyn deall y farchnad rhentu yng Nghymru yn well, yn enwedig o ran deall rhenti, ymddygiad tenantiaid a landlordiaid, fforddiadwyedd, a ffyrdd y gallem wella digonolrwydd tai dros amser, gan gynnwys tystiolaeth ar sut i sicrhau digonolrwydd tai yng Nghymru.
Dros haf 2023, cynhaliwyd gweithdai gyda rhanddeiliaid amrywiol, gan gynnwys landlordiaid preifat a thenantiaid. Cynhaliwyd cyfanswm o chwe gweithdy yn Llandudno, Caerfyrddin a Chaerdydd, a chymerodd 168 o bobl ran ynddynt. Yn ogystal, cynhaliodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd Ymchwiliad i'r Hawl i Dai Digonol, ac yn unol â phenderfyniad y Llywodraeth i dderbyn argymhellion y Pwyllgor mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Ymchwiliad hefyd wedi cael ei hadolygu.
Mae'r cyfraniadau hyn wedi llywio datblygiad y Papur Gwyn sy'n cael ei gyhoeddi yn yr Haf fel rhan o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu, a'r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymateb.