Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Physgodfeydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi gwybod i Aelodau bod y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch cyflwyno system tabl prisio ar gyfer iawndal TB gwartheg wedi'i gyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru:

Yn gynharach eleni, gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn ar gyflwyno system a fyddai'n sicrhau bod taliadau iawndal TB yn seiliedig ar gyfartaledd prisiau'r farchnad ar gyfer categorïau penodol o wartheg, yn hytrach nag ar werthusiadau unigol a wneir ar y fferm. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am 12 wythnos, a derbyniwyd 70 o ymatebion oddi wrth ystod o sefydliadau, busnesau ac unigolion a fynegodd eu barn ar y cynigion.

Credaf fod lefel yr iawndal yn fater hynod bwysig i ffermwyr ac y bydd angen i unrhyw newidiadau i'r system bresennol daro cydbwysedd rhwng rhoi iawndal teg i ffermwyr am golli eu hanifeiliaid a sicrhau bod buddiannau trethdalwyr yn cael eu gwarchod.

Rwy’n ystyried yr ymatebion yn ofalus. Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn fanwl ac argymell opsiynau ar gyfer ffordd ymlaen. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y mater hwn ar ôl toriad yr haf.