Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhwng 16 Mawrth a 6 Gorffennaf 2021, cynhaliwyd ymgynghoriad ar ddyfodol seilwaith ieithyddol y Gymraeg.

Rydym yn diffinio ‘seilwaith ieithyddol’ fel y pethau sy’n ein helpu i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd – y brics a’r morter fel corpora, geiriaduron ac adnoddau terminoleg, a’r holl waith ymchwil a safoni sy’n mynd ymlaen er mwyn galluogi’r adnoddau hyn i dyfu a datblygu.

Nod y cynigion yn y ddogfen ymgynghori oedd arwain at well cydlynu rhwng yr holl elfennau er mwyn gwella’r ddarpariaeth i ddefnyddwyr, boed yn aelodau’r cyhoedd, yn gyfieithwyr, yn bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith, yn athrawon, yn blant ysgol a’u rhieni, a phawb sydd am ddefnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw ffordd.

Bellach hoffwn dynnu sylw’r Aelodau at y ddogfen rwy’n ei chyhoeddi heddiw, sy’n grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ddyfodol seilwaith ieithyddol y Gymraeg.  

Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad ac a roddodd o’u hamser i wneud hynny. Gan adeiladu ar yr adborth a gafwyd drwy'r ymgynghoriad, byddwn yn gwneud datganiad ar y camau nesaf maes o law.

Mae Strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr yn gosod targedau ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a’r nifer sy’n siarad Cymraeg bob dydd. Agwedd arall ar y strategaeth yw creu amodau ffafriol i’r pethau hyn ddigwydd - mae adnoddau fel geiriaduron, terminolegau a chorpora yn rhan bwysig iawn o hyn, ac yn gwneud llawer i osod y sylfeini ar gyfer caffael y Gymraeg a gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu defnyddio’r iaith yn hyderus heb rwystr.   

Cymraeg: Polisi cenedlaethol seilwaith ieithyddol y Gymraeg | LLYW.CYMRU