Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn rhoi darlun clir sut y mae ysgolion yng Nghymru yn perfformio. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi’r categorïau cymorth ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd am y bumed flwyddyn. 

Nod y system gategoreiddio yw pennu’r cymorth sydd ei angen ar ein hysgolion er mwyn iddynt wella. Mae'n cynnig dull cyfannol o wella ysgolion, sy’n galluogi i gyd-destun yr ysgol ac ystod eang o wybodaeth gael eu hystyried wrth bennu dyfarniad ynghylch hunanwerthusiad yr ysgol a'i chapasiti i wella.

Mae'r system yn gwerthuso ac yn asesu ysgolion ac yn eu gosod mewn categori cymorth drwy ddefnyddio'r broses ganlynol: 

  • Cam un: rhoddir ystod eang o wybodaeth am berfformiad i ysgolion gan Lywodraeth Cymru fel sail i’w hunanwerthusiad o’u capasiti i wella mewn perthynas â dysgu ac addysgu, ac fel man cychwyn i’w trafodaethau â’r cynghorydd herio yn y consortiwm rhanbarthol am eu perfformiad a'r meysydd i’w gwella;
  • Cam dau: caiff hunanwerthusiad yr ysgol ei asesu gan gynghorwyr her yn y consortia rhanbarthol;
  • Cam tri: ar ôl i'r dangosyddion deilliannau a'r wybodaeth hunanwerthuso gael eu dadansoddi, cytunir ar gategori cymorth drafft drwy drafod â’r ysgol. Caiff y categori hwn ei gymedroli gan yr awdurdod lleol a’r consortiwm addysg rhanbarthol. Yna, caiff ei wirio ar lefel genedlaethol, a rhoddir categori lliw i’r ysgol a fydd yn sbarduno rhaglen benodol o gymorth, heriau ac ymyriadau.

Nid yw'r broses wedi newid ers y llynedd. Mae canllawiau diwygiedig bellach ar gael sy'n esbonio’r broses yn fwy manwl.

Yn ôl y ffigurau rydym wedi'u cyhoeddi heddiw, mae 88.4 y cant o ysgolion cynradd a 69.4 y cant o ysgolion uwchradd yn y categorïau gwyrdd a melyn erbyn hyn. 

Mae'n galonogol bod canran yr ysgolion sydd yn y categori gwyrdd wedi cynyddu o 35.4 y cant y llynedd i 41.6 y cant eleni. Mae hyn yn dangos gwelliant mewn ysgolion y dylid ei gydnabod ac yn argoeli'n dda ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bydd rôl allweddol gan yr ysgolion hyn o ran helpu ysgolion eraill yng Nghymru drwy rannu eu harbenigedd, eu sgiliau a'u harferion da. Drwy wneud hyn, byddant yn gwneud cyfraniad hollbwysig at sicrhau gwelliannau i addysg yng Nghymru ac yn ein symud ni tuag at system o hunanwella parhaus. 

Mae’r hyn a gyhoeddwn heddiw yn dangos yn glir ein bod yn datblygu system gefnogol a chydweithiol yng Nghymru, ac y byddwn yn sicrhau bod ysgolion - a dysgwyr yn y pendraw - yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn i godi safonau.

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r consortia rhanbarthol i adolygu’r broses gategoreiddio. Eleni, rwyf wedi gofyn iddynt ystyried a oes angen datblygu'r broses, a sut, er mwyn cyd-fynd â'r trefniadau Gwerthuso a Gwella arfaethedig newydd.  Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar y trefniadau hyn yn yr wythnosau nesaf.

 

https://beta.llyw.cymru/system-genedlaethol-ar-gyfer-categoreiddio-ysgolion-categoriau-cefnogaeth