Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn rhoi darlun clir o lefel y cymorth sydd ei angen ar ysgolion i wella. Heddiw, mae'r categorïau cymorth ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig wedi'u cyhoeddi am y chweched flwyddyn.

Mae'r broses gategoreiddio'n ystyried ystod eang o dystiolaeth a gwybodaeth briodol am yr ysgolion wrth benderfynu ar lefel eu hanghenion cymorth.

Mae’n cynnig categori cymorth i ysgolion drwy ddilyn y camau canlynol:

  • gwerthuso a dadansoddi ystod eang o ddata, tystiolaeth a gwybodaeth, sy'n fan cychwyn i ysgolion gynnal trafodaethau â chynghorydd herio'r consortiwm rhanbarthol am eu perfformiad a'r meysydd i'w gwella 
  • asesiad o hunanwerthusiad yr ysgol a'i gallu i wella gan gynghorydd herio'r consortiwm rhanbarthol
  • cytunir ar gategori cymorth drafft drwy drafodaeth â'r ysgol a'r corff llywodraethu. Caiff y categori ei gymedroli gan yr awdurdod lleol a'r consortia addysg rhanbarthol, a'i ddilysu'n genedlaethol, ac mae'n gosod yr ysgol mewn categori cymorth lliw sy'n arwain at raglen ymyrraeth a chymorth sydd wedi'i theilwra.

Mae'n galonogol i mi fod canran yr ysgolion cynradd ac uwchradd sydd yn y categori gwyrdd wedi cynyddu o 41.6 y cant y llynedd i 46.9 y cant eleni. Mae hyn yn arwydd o welliant a mwy o allu yn y system y dylid ei gydnabod. Bydd gan yr ysgolion hyn rôl allweddol o ran helpu eraill i wella, drwy rannu eu harbenigedd, eu sgiliau a'u harferion da.

Rwy'n parhau i fod wedi ymrwymo i adeiladu system hunanwella i ysgolion ledled Cymru sy'n seiliedig ar gydweithio. Mae canlyniad y broses gategoreiddio eleni yn dangos yn glir ein bod, drwy waith y consortia rhanbarthol, yn llwyddo i feithrin gallu a sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir i'w galluogi i godi safonau i bawb.

Er gwaetha'r gwelliannau, rwy'n dal i bryderu am yr ysgolion hynny y mae dal i fod angen y gefnogaeth fwyaf arnynt, yn enwedig y gyfran yn y sector uwchradd. Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw, mae 13.5 y cant o'n hysgolion yn y categorïau melyn a coch. 

Mae'r materion a wynebir yn yr ysgolion hyn yn aml yn gymhleth ac yn debygol o angen partneriaethau cryf ar draws yr haen ganol. Felly, rydym yn treialu dull gweithredu amlasiantaeth gyda nifer fach o ysgolion uwchradd. Bydd hyn yn golygu, pan fydd yr awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol wedi nodi'r ysgolion y mae angen y gefnogaeth fwyaf arnynt, y byddant yn gallu manteisio ar yr arbenigedd a'r adnoddau sylweddol sy'n bodoli yn ein haen ganol, a sicrhau bod pawb yn cydweithio ac yn gweithio tuag at yr un nod.

Wrth asesu effeithiolrwydd y trefniadau newydd hyn, byddwn hefyd yn ystyried dyfodol y system gategoreiddio.

https://llyw.cymru/system-genedlaethol-ar-gyfer-categoreiddio-ysgolion-categoriau-cefnogaeth