Jeremy Miles MS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Datblygwyd y canllawiau statudol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref, a gyhoeddwyd heddiw, i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol mewn perthynas â phlant sy'n cael eu haddysgu gartref.
Mae'r canllawiau statudol yn helpu sicrhau bod pob plentyn yn cael cefnogaeth i gael mynediad at y gwasanaethau cyffredinol a budd-daliadau sydd fel arfer ar gael i blant a phobl ifanc mewn addysg prif ffrwd. Maent hefyd yn helpu egluro'r gofynion presennol yn ôl y gyfraith a'r cyfrifoldebau ar rieni ac awdurdodau lleol i sicrhau cysondeb ymarferol i bob plentyn, waeth sut maen nhw'n derbyn eu haddysg.
Mae'r canllawiau wedi'u datblygu yn dilyn ymgynghoriad ar-lein ac ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys plant a theuluoedd sy'n cael eu haddysgu gartref.
Mae'r canllawiau'n cydnabod bod y dull o addysgu gartref y mae rhieni'n ei gymryd i sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg addas yn debygol o gael ei ddylanwadu gan eu hathroniaeth neu eu safbwyntiau eu hunain, ac yn nodi y gallai cynnydd, dros gyfnod hirdymor, gymryd amrywiaeth o ffurfiau.
Mae'r canllawiau yn nodi disgwyliad Llywodraeth Cymru sef, er mwyn penderfynu a yw'r addysg a ddarperir gan riant yn addas, y dylai'r awdurdod lleol weld a chyfathrebu gyda’r plentyn. Mae gweld a chyfathrebu gyda'r plentyn nid yn unig yn rhoi cyfle i'r awdurdod lleol ddeall yn well sut mae'r plentyn yn dysgu a pha feysydd dysgu y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt, mae hefyd yn gyfle i blant sy'n cael eu haddysgu gartref rannu eu barn ar yr addysg y maent yn derbyn. Mae hyn yn allweddol er mwyn cynnal hawl pob plentyn i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.
Cyn bo hir, bydd y canllawiau statudol hyn yn cael ei ategu gan ‘Lawlyfr i Addysgwyr yn y Cartref’ newydd, gyda chyngor a gwybodaeth fanwl i gefnogi teuluoedd sy'n addysgu gartref wrth wneud y penderfyniadau priodol ar gyfer eu plentyn.
Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â chynigion yn gysylltiedig â sefydlu cronfa ddata o blant nad oes awdurdod lleol yn ymwybodol ohono, gan gynorthwyo awdurdodau lleol yn eu dyletswyddau i ganfod y plant sydd o bosib ddim yn derbyn addysg addas.