Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae 84 diwrnod bellach wedi mynd heibio ers inni wneud y penderfyniad i gau ein hysgolion i'r mwyafrif o ddysgwyr, a hynny mewn ymateb i argyfwng Covid-19.

Rydym i gyd yn gwybod y bydd cyfnod mor hir i ffwrdd o'r ysgol, ffrindiau, a'r ystafell ddosbarth yn cael effaith andwyol ar nifer mawr o'n pobl ifanc, boed hynny ar eu llesiant neu eu haddysg. Gwyddom hefyd, er gwaethaf gwaith rhagorol a chaled y staff, nad yw'r mwyafrif helaeth o'r disgyblion a ddisgrifir fel 'agored i niwed' wedi bod yn bresennol yn ystod y cyfnod hwn. Dyna pam yr ydym wedi penderfynu y bydd y mwyafrif o ddysgwyr, o 29 Mehefin ymlaen, yn gallu dod i mewn, dal i fyny, a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi.

Yn yr un modd, cyhoeddais y bydd dysgwyr mewn Addysg Bellach (AB) yn dychwelyd yn raddol pan fydd nifer cyfyngedig o fyfyrwyr AB a Dysgu Seiliedig ar Waith yn dechrau dysgu wyneb yn wyneb eto mewn grwpiau blaenoriaeth o 15 Mehefin.

Wrth inni symud i'r cam nesaf hwn, bydd rôl ysgolion, lleoliadau ac ymarferwyr ar yr adeg hon yn hollbwysig: meithrin ein plant a'u cefnogi i barhau i ddysgu ac i lwyddo.

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi canllawiau cychwynnol ar gyfer AB a Dysgu Seiliedig ar Waith, yn ogystal ag ysgolion, i gefnogi ein lleoliadau addysgol i gynyddu eu gweithrediadau yn ddiogel dros yr wythnosau nesaf. Mae'r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth am ddysgu, rheoli eu cyfleusterau, adnoddau, PPE, glanhau a thrafnidiaeth.

Mae'n bwysig pwysleisio mai dogfennau gweithio yw'r rhain.  Wrth inni barhau i Ddiogelu Cymru, byddwn yn parhau i ddatblygu’r canllawiau dros dymor yr haf i'r hyn a fydd yn 'sefyllfa arferol ' ym mis Medi gan sicrhau ar yr un pryd eu bod yn adlewyrchu'r cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf.

Mae taro cydbwysedd rhwng darparu canllawiau cenedlaethol - canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwarchod, defnyddio PPE, hylendid a chadw pellter cymdeithasol er enghraifft - a galluogi hyblygrwydd lleol i adlewyrchu cyd-destun lleol yn bwysig ac mae wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r canllawiau hyn.

Caiff rhagor o fanylion a chymorth eu datblygu wrth i gynlluniau manwl gael eu llunio gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol. Rwyf yn ddiolchgar i'n holl randdeiliaid sydd wedi cydweithio'n agos â ni ar ddatblygu'r canllawiau, ac i rieni ac ysgolion sydd wedi anfon argymhellion defnyddiol yr ydym yn parhau i'w harchwilio.

Rwyf hefyd yn croesawu heddiw gyhoeddi canllawiau Cadw Gofal Plant yn Ddiogel: Mesurau diogelu mewn lleoliadau gofal plant ar gyfer gofal plant gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a fydd yn cynorthwyo'r sector gofal plant i agor yn ehangach ac, wrth wneud hynny, sicrhau y gall weithredu'n ddiogel.

Gwn y bydd rhai pobl yn teimlo'n bryderus. Iechyd a llesiant dysgwyr a staff yw’r peth pwysicaf inni bob tro.  Mae ysgolion, colegau a lleoliadau eraill yn gweithio'n galed er mwyn i’w dysgwyr ddychwelyd ac i roi'r mesurau diogelwch priodol ar waith. Bydd y canllawiau a gyhoeddir heddiw yn eu helpu i wneud hynny.

Gan weithio gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau tegwch a rhagoriaeth i ddysgwyr wrth iddynt ddod i mewn, dal i fyny, a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi.

Canllawiau Gweithredol:

Canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau Addysg: Diogelu Addysg (COVID-19)

Canllawiau Dysgu:

Canllawiau ar ddysgu dros dymor yr haf: Diogelu Addysg (COVID-19)

Canllawiau Addysg Bellach:

Canllawiau ar addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith wyneb yn wyneb: coronafeirws

Canllawiau Gofal Plant:

Diogelu staff a phlant rhag y coronafeirws mewn gofal plant