Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd y canllawiau a ddiweddarwyd: Gwrthsafiad a Pharch - Datblygu Cydlyniant Cymunedol, a'r adnodd sy'n gysylltiedig â nhw, yn cael eu cyhoeddi ar 12 Ionawr 2016 ar wefan Llywodraeth Cymru. Rhennir y dogfennau ag Aelodau'r Cynulliad er gwybodaeth.

Yn dilyn Deddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015 sy'n cyflwyno dyletswydd ar ysgolion a cholegau, fel rhan o'u swyddogaeth, i roi sylw dyledus i'r angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Canllawiau Dyletswydd i Atal: ar gyfer Cymru a Lloegr  i'w defnyddio gan gyrff cyhoeddus penodol, gan gynnwys darparwyr addysg. Yn ogystal, cyhoeddodd Adran Addysg Llywodraeth y DU Y Dyletswydd i Atal: Cyngor i ysgolion a darparwyr gofal plant.

Er mwyn cyd-fynd â hyn, mae swyddogion AdAS wedi diweddaru canllawiau Llywodraeth Cymru Gwrthsafiad a Pharch a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2011. Diben y canllawiau diweddaraf hyn, a'r adnodd sy'n gysylltiedig â nhw, yw cefnogi datblygu cydlyniant cymunedol ac atal eithafiaeth mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill yng Nghymru.

Mae'r ddogfen newydd yn cynnwys cyngor ychwanegol ynghyd ag adnodd hunanasesu a fydd yn sicrhau bod ysgolion yng Nghymru'n gallu bodloni gofynion cyfreithiol Deddf Gwrth-derfysgaeth a Diogelwch 2015. Mae'r canllawiau yn cynnig cyngor clir ac ymarferol ac maent yn berthnasol i'r Cyfnodau Sylfaen, Cynradd ac Uwchradd, yn hytrach na chyfeirio at oedran penodol.

Gellir darllen y canllawiau diweddaraf hyn ar wefan Llywodraeth Cymru.