Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddais y bydd modd i bob dysgwr ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi gyda 100% o’r dysgwyr yn bresennol yn gorfforol ar safle’r ysgol. Cyhoeddais gynlluniau hefyd i neilltuo £29m i ‘recriwtio, adfer a chodi safonau’ yn yr ysgolion mewn ymateb i effaith y pandemig, sy’n cael ei deimlo o hyd. Heddiw rwy’n cyhoeddi fersiynau diwygiedig o’r canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau i gynyddu eu gweithrediadau o fis Medi 2020.

Ar 10 Mehefin, cyhoeddais ganllawiau i ysgolion a lleoliadau er mwyn eu helpu i gynyddu eu gweithrediadau mewn ffordd ddiogel o 29 Mehefin ymlaen. Roedd y canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am ddysgu, rheoli cyfleusterau, adnoddau, cyfarpar diogelu personol, glanhau a chludiant.

Mae’r canllawiau gweithredol ar gyfer tymor yr hydref yn adlewyrchu’r cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf. Mae hefyd yn darparu fframwaith i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau i weithredu’n llawn yn yr hydref, gyda chanllawiau ar grwpiau cyswllt. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth fanylach ynghylch sut y gall ysgolion amcangyfrif a rheoli’r peryglon o drosglwyddo’r feirws.

Bydd y canllawiau dysgu ar gyfer tymor yr hydref yn rhoi cyfres o egwyddorion cyffredin ar gyfer dysgu i ysgolion a phartneriaid, beth bynnag yw lefel y gweithrediadau mewn ymateb i COVID-19.  Bydd angen i ysgolion baratoi ar gyfer amrywiol sefyllfaoedd posibl ac fe fydd y canllawiau hyn yn nodi pa flaenoriaethau dysgu ddylai aros yn gyson drwyddynt: dull gweithredu unigol sy’n ddigon hyblyg i ymateb i sefyllfaoedd sy’n newid.

Fel eglurwyd yn flaenorol, mae’n bwysig sicrhau cydbwysedd rhwng darparu canllawiau cenedlaethol a chaniatáu hyblygrwydd i adlewyrchu cyd-destun lleol, ac mae hynny wedi bod yn hanfodol wrth ddatblygu’r canllawiau. Rwy’n ddiolchgar i’n holl randdeiliaid sydd wedi cydweithio’n agos gyda ni i ddatblygu’r canllawiau yn cynnwys prif athrawon, awdurdodau lleol ac undebau llafyr. Bydd y canllawiau hyn yn helpu ein hysgolion i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i gael mynediad at gwricwlwm eang a chytbwys, a’u bod yn parhau i wneud cynnydd yn eu dysgu sut bynnag y bydd y gweithrediadau yn newid. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y canllawiau’n adlewyrchu’r cyngor meddygol a gwyddonol diweddaraf. Byddwn hefyd yn parhau i weithio’n agos â Chymwysterau Cymru a CBAC i sicrhau cysondeb wrth gefnogi dysgwyr sy’n sefyll arholiadau yn 2021.

Hoffwn ddiolch i’r proffesiwn addysg am eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a’u gwaith caled dros y misoedd diwethaf, yn arbennig yr ychydig wythnosau diwethaf sydd wedi caniatáu i ddysgwyr ailgydio, dal i fyny a pharatoi. Rwy’n gwybod y bydd y proffesiwn addysg yn parhau i roi blaenoriaeth i iechyd a lles y dysgwyr pan fydd y ddarpariaeth yn cynyddu ym mis Medi.

Canllawiau gweithredol: https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-ar-gyfer-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19

Canllawiau dysgu: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ddysgu-mewn-ysgolion-lleoliadau-o-dymor-yr-hydref-covid-19