Jane Hutt, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar drais a chamdriniaeth. Mae'r strategaeth yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau perthnasol ar gomisiynu gwasanaethau ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n adeiladu ar y canllaw ar arferion da “Tackling Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence – A Collaborative Commissioning Toolkit for Services in Wales”.
Mae'r Canllawiau yn cefnogi Erthygl 7 o Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar atal a threchu trais yn erbyn menywod a thrais domestig ("Confensiwn Istanbwl"), a lofnodwyd gan y DU, drwy gefnogi ac annog dulliau cydweithredol o weithio rhwng awdurdodau perthnasol a darparwyr eraill.
Bydd Canllawiau Comisiynu sy’n mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn hybu comisiynu cydweithredol o ansawdd uchel sy'n darparu gwasanaethau mwy cyson, mwy effeithiol ac sydd wedi'u seilio ar anghenion er mwyn atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac i ddiogelu a helpu dioddefwyr yng Nghymru. Bydd yn helpu i gefnogi comisiynu ymyriadau integredig ar sail tystiolaeth gan wasanaethau arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol, yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Gwneir hyn er mwyn bodloni diben y Ddeddf i atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol; ac er mwyn diogelu a helpu dioddefwyr.
Rydym eisiau sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel i fyw ac yn dymuno annog pobl sy'n cael eu cam-drin i geisio cymorth. Rydym eisiau i Gymru ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf, ac i gyflawni hynny mae angen i ni sicrhau bod pobl yn cael cyngor a chymorth o'r safon uchaf bosibl pan fyddant yn ceisio help. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn, sydd wedi'u seilio ar anghenion, yn parhau i fod ar gael i ddinasyddion yng Nghymru.
Gallwch weld y Canllawiau statudol ar gyfer Comisiynu Gwasanaethau VAWDASV yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru:
Comisiynu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol