Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Cwricwlwm a arweinir gan ddibenion yw'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'n nodi'r hyn yr ydym ei eisiau i’n dysgwyr pan fyddant yn gorffen addysg orfodol yn 16 oed – sef eu bod yn ddinasyddion gwybodus, yn unigolion hyderus ac yn gyfranwyr yn y gymdeithas sy'n barod i ddysgu trwy gydol eu hoes.
O fis Medi 2025 bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei ddysgu i flwyddyn 10; ac ym mis Medi 2026, pan fydd yn cael ei ddysgu i flwyddyn 11, bydd y broses gyflwyno'n gyflawn.
Mae blynyddoedd 10 ac 11 yn hanfodol bwysig i bobl ifanc, gan mai dyna'r blynyddoedd pan fyddant yn dechrau ymgymryd â chymwysterau. Yn ystod y blynyddoedd hyn, gall eu penderfyniadau a'u cyflawniadau gael dylanwad sylweddol ar eu dewisiadau a'u llwybrau yn y dyfodol.
Mae addysg uwchradd, wrth gwrs, yn ymwneud â mwy na dim ond astudio ar gyfer cymwysterau. Ac mae'n rhaid i'r addysgu a'r dysgu fod yn ehangach na dim ond paratoi pobl ifanc ar gyfer arholiadau hefyd – mae'n helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer eu bywyd. Dyna pam rwyf am i bob dysgwr orffen addysg orfodol yn 16 oed ar ôl cael y cyfle i ennill cymwysterau da ac ar ôl ennill yr wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen arnynt i'w helpu i drosglwyddo i'w camau nesaf, boed hynny'n parhau mewn addysg ffurfiol, yn dilyn prentisiaeth neu’n cael gwaith.
Heddiw rwy'n cyhoeddi canllawiau statudol ar ddysgu 14-16 o dan y Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r canllawiau'n nodi'r polisi ar gyfer dysgu ac addysgu 14 i 16, gan gynnwys y gofynion cyfreithiol ar gyfer ysgolion, ac maent yn llunio rhan o ganllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r canllawiau'n nodi disgwyliadau cenedlaethol clir er mwyn sicrhau dull cyson ar draws pob ysgol.
Yn ganolog i'r canllawiau hyn y mae'r Hawl i Ddysgu 14 i 16: y dysgu y bydd pob dysgwr ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn elwa arno o dan y Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o gymwysterau TGAU, galwedigaethol a rhai seiliedig ar sgiliau sy'n deillio o'r Cymwysterau Cenedlaethol 14 i 16 a ddatblygwyd gan Cymwysterau Cymru, yn ogystal â dysgwyr sy'n dilyn cymwysterau ymestynnol ac uchelgeisiol mewn llythrennedd, rhifedd a'r gwyddorau. Bydd yr Hawl i Ddysgu hefyd yn helpu i sicrhau bod pob person ifanc yn dilyn y llwybr sy'n iawn iddyn nhw, a bydd yr ysgolion yn eu cefnogi i gynllunio eu camau nesaf.
Wrth ymateb i'r hyn y mae uwch-arweinwyr wedi dweud wrthyf y mae ei angen arnynt, mae fy swyddogion wedi gweithio gydag arweinwyr ysgolion i ddatblygu pecyn cymorth i ymarferwyr ar sut y gall ysgolion gynllunio eu cynnig cwricwlwm 14 i 16. Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi yn ystod tymor yr hydref, i gyd-fynd â chyhoeddi manylebau newydd TGAU Gwneud-i-Gymru CBAC.
Mae CBAC wedi datblygu cynllun Cymru gyfan digynsail i ddarparu hyfforddiant ar TGAU Gwneud-i-Gymru i glystyrau o ysgolion yn ystod diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2025. Rydym hefyd yn datblygu pecyn dysgu proffesiynol wedi'i dargedu ar gyfer uwch-arweinwyr i ategu hyfforddiant CBAC, a'r dysgu proffesiynol sydd eisoes ar gael ar gynllunio'r cwricwlwm, cynnydd ac asesu.
Yn ogystal â darparu strwythur ar gyfer cynllunio cwricwlwm ym mlynyddoedd 10 ac 11, bydd yr Hawl i Ddysgu 14-16 hefyd yn cynnig fframwaith ar gyfer ysgolion i'w ddefnyddio i hunanwerthuso a myfyrio ar ddysgu, cynnydd a chyflawniadau eu dysgwyr yn y blynyddoedd hyn, ac i gynllunio ar gyfer gwelliannau pellach yn eu cynnig. Felly, bydd ein cynigion ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn y gofynion gwybodaeth a fydd yn disodli "Cyfnod Allweddol 4 mesurau perfformiad interim" (gan gynnwys y Capio 9) yn cyd-fynd â blaenoriaethau a nodau'r Hawl i Ddysgu. Byddwn yn ymgynghori ar gynigion gwybodaeth sy'n ymwneud â'r Hawl i Ddysgu 14-16 yn ddiweddarach y tymor hwn, ac yn rhoi cyfarwyddyd ar ein disgwyliadau ar gyfer defnyddio a chyhoeddi data perthnasol ar lefel ysgol.
Bydd y polisi dysgu 14-16 a'r gofynion gwybodaeth ategol yn helpu i lunio'r disgwyliadau y mae Estyn yn arolygu ysgolion uwchradd yn eu herbyn o fis Medi 2025 ymlaen.