Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Ar 21 Medi 2016, cyhoeddodd Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus egwyddorion a chanllawiau ar ddefnydd priodol o drefniadau oriau heb eu gwarantu mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'r trefniadau'n cynnwys contractau dim oriau.
Mae canllawiau ac egwyddorion y Comisiwn yn gosod disgwyliadau clir ynghylch arferion y dylai pob cyflogwr sector cyhoeddus eu mabwysiadu er mwyn sicrhau bod trefniadau oriau heb eu gwarantu ond yn cael eu defnyddio dan amgylchiadau neilltuol iawn, sydd wedi'u diffinio'n glir. Datblygwyd yr egwyddorion drwy gydweithio agos gyda Chyngor Partneriaeth y Gweithlu Llywodraeth Cymru a'i is-grwpiau mewn enghraifft o bartneriaeth gymdeithasol ar waith.
Bydd yr egwyddorion a'r canllawiau hyn yn helpu sefydliadau i osgoi'r defnydd amhriodol o gontractau oriau heb eu gwarantu o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi'r canllawiau i holl gyflogwyr y sector cyhoeddus datganoledig. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd trin gweithlu'r sector cyhoeddus yn deg, a'r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i hynny, yn ogystal â'r berthynas rhwng hyn a darparu gwasanaethau cyhoeddus ardderchog.
Hyd yn oed pan fo'r defnydd o gyfyngiadau oriau heb eu gwarantu yn gyson â'r amodau sydd i'w gweld yn y cyngor, mae'r Comisiwn o'r farn na ddylid eu defnyddio'n ddiddiwedd. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w chefnogi gyda’r amgylchiadau penodol sy'n effeithio ar ofal cymdeithasol, ac i gyflawni’r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i weithredu i gyfyngu ar gontractau dim oriau.
Mewn adroddiad diweddar, dywedodd y Resolution Foundation bod tua 400,000 o bobl dros 25 oed yn y DU wedi cael contractau dim oriau gyda'r un cyflogwr am dros 12 mis. Mae'r canllawiau sydd wedi'u cyhoeddi heddiw yn cynnig y dylai sefydliadau sicrhau bod modd i'w staff ofyn am adolygiad o'u trefniadau gwaith, gyda'r nod o newid eu contractau os ydynt wedi gweithio oriau rheolaidd dros gyfnod parhaus, ac fe ddylent hefyd gael mynediad at yr un trefniadau datblygiad cyflog â gweithwyr llawn amser. Mae'r canllawiau'n dweud yn glir na ddylai aelod o staff sy'n gwrthod cynnig am waith, am ba bynnag reswm, gael ei drin yn llai ffafriol o ran cael cynnig gwaith yn y dyfodol.
Rwy'n awyddus i weld y Canllawiau a'r Egwyddorion yn cael eu mabwysiadu ar draws y sector cyhoeddus datganoledig a'u cymhwyso yn unol ag amodau lleol, drwy bartneriaeth gymdeithasol, ar sail math ac ystod y gwasanaethau. Felly rwy'n bwriadu cynnal adolygiad, drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, i weld a yw'r canllawiau hyn wedi'u rhoi ar waith yn ddigonol erbyn 2018, ac i nodi lle mae'r undebau a'r cyflogwyr wedi defnyddio'r egwyddorion a'r canllawiau'n effeithiol a lle mae angen eu defnyddio'n well i ysgogi newid. Os oes unrhyw dystiolaeth nad yw'r canllawiau wedi cael eu mabwysiadu'n ddigonol, byddaf yn ystyried wedyn eu gwneud yn orfodol.
Cyhoeddwyd y canllawiau yma:
http://llyw.cymru/topics/improvingservices/publications/principles-guidance-on-use-of-non-guaranteed-hours/?lang=cy