Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Bydd Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 yn rhoi terfyn ar yr arferion gwael sy’n ymwneud â chodi rhenti tir sy’n uchel ac yn gynyddol ar gyfer lesoedd newydd – a hynny drwy leihau rhenti tir ar gyfer lesoedd newydd i swm isel iawn. Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol yn gynharach eleni, ar ôl i gynnig cydsyniad deddfwriaethol gael ei gymeradwyo yn y Senedd, a bydd yn cael ei chychwyn ar 30 Mehefin 2022.
Heddiw, rwy’n cyhoeddi dwy ddogfen ganllaw i gyd-fynd â chychwyn y Ddeddf:
- Canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru, sy’n awdurdodau gorfodi o dan y Ddeddf; a
- Canllawiau cyffredinol ar y Ddeddf ar gyfer lesddeiliaid, landlordiaid ac asiantiaid.
Mae cychwyn y Ddeddf hon yn garreg filltir ar hyd y daith tuag at system decach ar gyfer lesddeiliaid. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod effaith y Ddeddf wedi ei chyfyngu i lesoedd newydd, ac mae’r gwaith o sicrhau newidiadau mwy uchelgeisiol ar gyfer lesddeiliaid presennol yn parhau, fel y’u disgrifir yn argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn y maes hwn. Fel y nodais yn flaenorol, fy mwriad yw bod deddfwriaeth ar y cyd yn cael ei llunio rhwng Cymru a Lloegr er mwyn mynd i’r afael ag argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar ryddfreinio a’r hawl i reoli, ac i adfywio cyfunddeiliadaethau fel dewis ymarferol yn lle lesddeiliadaethau. Mae Llywodraeth y DU yn parhau â’i hymrwymiad i gyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth yn ystod ei Senedd bresennol, a byddaf innau’n parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau wrth i’r gwaith hwn fynd yn ei flaen.