Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o roi gwybod ein bod wedi cyhoeddi Bwyd o Bwys: Cymru. Deilliodd Bwyd o Bwys: Cymru o ymrwymiad i'r Senedd i gyhoeddi dogfen sy'n crynhoi gwaith trawsbortffolio Llywodraeth Cymru ar bolisi bwyd. Mae'n dangos y dull cyfannol, cydlynol yr ydym yn ei gymryd ar draws y Llywodraeth i hyrwyddo agenda strategol ar gyfer bwyd. Mae bwyd yn sail i iechyd ein cenedl, ein llesiant cymdeithasol ac unigol. Mae Bwyd o Bwys: Cymru yn portreadu sut mae polisïau sy'n gysylltiedig â bwyd yn cyd-fynd â'n hamcanion llesiant i hyrwyddo nodau llesiant Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol o dan y Rhaglen Lywodraethu. Mae'n ddogfen gryno lefel uchel, sy'n borth i bolisïau gyda hyperddolenni i strategaethau a mentrau a enwir ar gyfer y rhai sy'n dymuno cael rhagor o wybodaeth. 

Mae'r amrywiaeth o bolisïau sy'n gysylltiedig â bwyd, o ran eu natur a sut y cânt eu datblygu a'u cyflawni, yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio a chydgysylltu rhwng y Llywodraeth a llawer o randdeiliaid. Mae hyrwyddo agenda strategol ar gyfer bwyd yn dibynnu ar ffocws a gweithredu ar y cyd. Mae Bwyd o Bwys: Cymru yn ategu'r ffocws ar fwyd gan strategaeth Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Cymru Can. Hoffwn ddiolch i'r rhai sy'n cyfrannu at faterion bwyd yng Nghymru mewn sawl ffordd ac atgyfnerthu fy ymrwymiad i gydweithio, trafodaeth amrywiol, a chydgysylltu llwyddiannus i barhau i ddatblygu polisi bwyd gyda phartneriaid ledled Cymru, dros Gymru.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau ar hyn, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny pan fydd y Senedd yn dychwelyd.