Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyn dymuno hysbysu'r Aelodau o'r ddogfen a gyhoeddwyd heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru o'r enw 'A Study of Potential Unconventional Gas Resource in Wales', a gomisiynwyd i wella ein dealltwriaeth o'r adnodd posibl ar gyfer Cymru.  
Mae'r astudiaeth, a gynhahliwyd gan y British Geological Survey, yn rhoi crynodeb cynhwysfawr o'r holl wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd am  yr adnodd, ar y môr ac ar y tir.  Mae hefyd yn ystyried dulliau o chwilio am yr adnodd, a'i ddatblygu, gan gynnwys nwy siâl, methan gwely glo a nwyeiddio glo tanddaearol, ac adolygiadau o effaith bosib unrhyw ddatblygiad ar yr amgylchedd ac ar iechyd.  

Mae nifer o greigiau yng Nghymru a allai gynnwys nwy wedi'u nodi yn yr astudiaeth, ond dim ond drwy archwilio ac ymchwilio ymhellach y gellir asesu'r adnodd posibl sydd ar gael.  

Mae Ynni Cymru yn cydnabod swyddogaeth nwy fel tanwydd allweddol wrth symud i system ynni carbon isel.  Strategaeth gan Ynni Cymru  hefyd yw sicrhau bod economi a phobl Cymru yn manteision o ddatblygiadau ynni, a'n bod yn canolbwyntio ar brosiectau sy'n rhoi'r gwerth gorau.    

Rydym yn cydnabod bod angen gwerthuso a yw'n bosibl i adnoddau nwy cynhenid gyfrannu at y gymysgedd ynni.  Mae'r astudiaeth hon yn rhoi sylfaen addas i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o fanteision ac anfanteision posibl datblygu nwy anghonfensiynol i bobl Cymru.  Rydym hefyd wedi ymrwymo i gomisiynu Astudiaeth i ddiffinio manteision ac anfanteision datblygu nwy anghonfensiynol yng Nghymru.  Rydym yn disgwyl cyhoeddi'r casgliadau hynny yn ddiweddarach yn y flwyddyn.