Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, rwy'n croesawu cyhoeddi adroddiadau terfynol Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru. Crëwyd y Grŵp i gyflawni ymrwymiad y Cytundeb Cydweithio (2021) o ran “Comisiynu cyngor annibynnol i ymchwilio i lwybrau posibl tuag at sero net erbyn 2035 – y dyddiad targed presennol yw 2050. Bydd hyn yn edrych ar yr effaith ar gymdeithas a sectorau o’n heconomi a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau andwyol, gan gynnwys sut y caiff y costau a’r manteision eu rhannu’n deg”.
Cytunodd y cyn Weinidog Jane Davidson yn garedig i gadeirio'r gwaith. Roedd y Grŵp Her yn cynnwys tîm gwirfoddol o arbenigwyr o'r byd academaidd, sefydliadau anllywodraethol, a'r sector preifat, y mae pob un ohonynt wedi ymrwymo i sicrhau newid cadarnhaol yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau sydd i ddod. Roedd gwaith y Grŵp Her yn cynnwys cyhoeddi galwadau am dystiolaeth a gwaith ymgysylltu eang yng Nghymru a thu hwnt.
Rwy'n hynod ddiolchgar i holl aelodau'r Grŵp Her, a Jane Davidson yn arbennig, am eu hymdrech aruthrol. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd wedi cefnogi'r Grŵp Her gyda gwasanaethau ymchwil ac ysgrifenyddiaeth.
Rydym yn ymfalchïo yng Nghymru mewn gweithio gyda'n gilydd ar broblemau a chyfleoedd cyffredin, ac mae'r Grŵp yn enghraifft wych o gydweithio. Er bod gan Gymru dargedau hinsawdd uchelgeisiol eisoes, rwy'n falch ein bod yn parhau i herio ein hunain.
Mae gwaith Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru wedi bod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Felly, byddwn yn cymryd amser i ystyried eu cynigion yn ofalus.
Yn 2025, gofynnir i'r Senedd gytuno ar y targedau ar gyfer Cyllideb Garbon 4 (2031-2035), ac yn 2026, bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn cyhoeddi cynllun sy'n nodi sut y bydd Cyllideb Garbon 3 (2026-30) yn cael ei chyflawni. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried fel rhan o’r gwaith hwn.