Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ym mis Mawrth 2014 penodwyd yr Athro John Furlong yn Gynghorydd Cymru ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon. Ei brif swyddogaeth oedd ystyried a chwmpasu’r newidiadau sydd eu hangen i wella Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru yn dilyn adolygiad gan yr Athro Ralph Tabberer yn 2013 ynghylch safon a chysondeb hyfforddiant athrawon.
Wrth ymgymryd â’r gwaith hwn edrychodd yr Athro Furlong yn ofalus ar y modd y caiff hyfforddiant i athrawon ei drefnu yng Nghymru, y dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi’r achos dros newid a’r camau y mae angen eu cymryd yng Nghymru i gefnogi system o’r radd flaenaf ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon sydd gystal â’r drefn mewn rhannau eraill o’r DU ac yn rhyngwladol.
Ym mis Ebrill 2014 cyhoeddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ei adroddiad ‘Improving Schools in Wales’. Cydnabu’r adroddiad fod gwaith eisoes ar droed yng Nghymru i ddiwygio a gwella Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru ond bod angen gwella’r drefn ymhellach. Pwysleisiwyd yr angen i ddenu nifer uwch o newydd-ddyfodiaid i’r proffesiwn addysgu a gwella eu hansawdd, gan felly ychwanegu gwerth sylweddol at safon ac effaith athrawon dros amser a gwella safon y ddarpariaeth a gynigir. Byddai hyn oll yn gwneud y proffesiwn yn un llawer iawn mwy deniadol i ddarpar athrawon.
Yn ystod y flwyddyn mae’r Athro Furlong wedi cynnal nifer o ymweliadau ynghyd â chyfres o gyfarfodydd â’r sector Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon, rhanddeiliaid allweddol, arbenigwyr o faes Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys cyrff cyhoeddus sy’n gysylltiedig â darparu Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon a chynrychiolwyr ymarferwyr addysgu. Mae’r gwaith cwmpasu bellach wedi’i gwblhau a chaiff adroddiad annibynnol yr Athro Furlong – Addysgu Athrawon Yfory – ei gyhoeddi heddiw. Gallwch ei weld ar wefan Llywodraeth Cymru yn (URL)
Daeth yr Athro Furlong i’r casgliad yn ei adroddiad fod addysg athrawon yng Nghymru wedi cyrraedd man tyngedfennol. Er mwyn galluogi’r proffesiwn addysgu i gyfrannu’n briodol at y gwaith o godi safonau addysg o fewn ein hysgolion, yn unol â’r hyn a nodir yn adroddiad yr Athro Donaldson ar yr adolygiad o’r cwricwlwm yng Nghymru - Dyfodol Llwyddiannus, mae angen sicrhau bod Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn ehangu yn hytrach na’n crebachu. Hollbwysig yn ogystal yw sicrhau bod gan athrawon y sgiliau, yr wybodaeth a’r anian i arwain y math o newid y bydd ei angen.
Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen pendant i ddiwygio Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru ar lefel genedlaethol a sefydliadol a hefyd ar lefel rhaglenni cyrsiau. Bydd hyn yn golygu newid yn sylweddol y fframwaith presennol sy’n llywodraethu Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn cydnabod y dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf sydd ar gael gan BERA sy’n nodi’r egwyddorion a’r nodweddion craidd canlynol o safbwynt addysg gychwynnol athrawon o’r radd flaenaf mewn gwledydd eraill:
- Sicrhau bod rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yn denu’r ymgeiswyr gorau a mwyaf addas i’r proffesiwn addysgu;
- Cynnig dyfarniadau academaidd sy’n gystadleuol, sy’n canolbwyntio ar ymarfer ac sy’n seiliedig ar ymchwil addysgol perthnasol;
- Meithrin cysylltiadau cadarn rhwng theori ac ymarfer, mewn modd sy’n cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac ystyried sut y mae theori addysgol ac arferion yn yr ystafell ddosbarth yn mynd law yn llaw;
- Meithrin cysylltiadau cadarn rhwng Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon a Datblygiad Proffesiynol Parhaus athrawon o fewn ysgolion
- Sicrhau bod yr holl egwyddorion uchod yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o dystiolaeth ynghylch sut y mae myfyrwyr yn dysgu i addysgu a bod y cyrsiau eu hunain yn parhau i gael eu hadolygu’n unol â gwaith ymchwil a datblygu.
Disgrifia’r Athro Furlong yn ei adroddiad gyfres o opsiynau ar gyfer newid ynghyd â naw argymhelliad allweddol sy’n ceisio mynd i’r afael â’r gwendidau presennol mewn Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon a phennu nodweddion systemau Hyfforddiant ac Addysg Athrawon eraill sy’n perfformio’n dda.
Rwy’n croesawu’r adroddiad a’r argymhellion a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Athro Furlong am ei ymrwymiad, ei broffesiynoldeb a’i agwedd ddiduedd wrth ymgymryd â’r gwaith hwn. Yn ddiamau mae’r achos dros newid a gyflwynir yn yr adroddiad yn gryf iawn. Yn sicr, er mwyn codi a chynnal safonau ym myd addysg mae’n rhaid i ni sicrhau cyflenwad o ymarferwyr newydd a myfyriol sydd â’r cymwysterau, y sgiliau a’r cydnerthedd priodol ar gyfer cefnogi’r newidiadau radical a phellgyrhaeddol i’r cwricwlwm a gynigir gan yr Athro Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus.
Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth yn yr adroddiad, mewn egwyddor. Bydd angen i’r opsiynau ar gyfer diwygio, ynghyd â’r modd o weithredu’r newidiadau hyn, gael eu hystyried mewn rhagor o fanylder. Byddwn yn sicrhau ein bod yn cynnwys ein holl bartneriaid o fewn y sector Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon ynghyd â rhanddeiliaid allweddol ymhob cam o’r broses er mwyn sicrhau bod y sector yn parhau’n hyfyw a bod modd trosglwyddo’n ddidrafferth i fodel newydd o Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn y dyfodol.
Yn ddiamau byddwn yn wynebu cryn heriau wrth i ni geisio rhoi’r newidiadau hyn ar waith ac mae’n rhaid i ni geisio sicrhau bod y prosesau angenrheidiol yn eu lle i gyflawni’r newidiadau i Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon sy’n gynaliadwy yn yr hirdymor, sy’n seiliedig ar sylfeini cadarn ac sy’n cefnogi newidiadau arfaethedig yr Athro Donaldson i’r cwricwlwm ynghyd â’r amcanion a nodir yn Cymwys am Oes.