Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Gorffennaf y llynedd gofynnais i'r Athro Ellen Hazelkorn gynnal adolygiad o Reoleiddio a Chynnal Trosolwg o Addysg a Hyfforddiant ôl-Orfodol yng Nghymru. Gofynnais i’r adolygiad gael ei gynnal oherwydd y cynnydd yn amrywiaeth a chymhlethdod y gwaith o gyflawni addysg ôl-orfodol o fewn y sector ac yn y trefniadau cysylltiedig ar gyfer cynnal trosolwg. Cynhaliwyd yr adolygiad gyda chyfeiriad arbennig at at rôl a swyddogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn y dyfodol. Mae copi o Gylch Gorchwyl yr adolygiad wedi'i gynnwys yn yr Atodiad.    

Mae'r Athro Hazelkorn wedi cwblhau ei hadolygiad erbyn hyn ac wedi cyflwyno ei hadroddiad i mi. Rwy'n ymwybodol bod ei gwaith wedi tynnu cryn sylw ac ysgogi llawer o ddyfalu. Bu aros eiddgar am ei hadroddiad. Rwyf felly'n cyhoeddi'r adroddiad heddiw er mwyn i randdeiliaid a phawb arall sydd â diddordeb gael cyfle i ystyried yr adroddiad, ei ddadansoddiad, a'i gasgliadau ac argymhellion cyn gynted â phosibl, a hynny cyn i'r Cynulliad dorri am y Pasg.  Nid wyf am wneud unrhyw sylw ar yr adroddiad ar hyn o bryd; mater i'r Llywodraeth newydd a sefydlir ar ôl etholiad y Cynulliad fis Mai fydd ystyried yr adroddiad a phenderfynu sut i ymateb iddo. 

Hoffwn ddiolch i'r Athro Hazelkorn am ei hymroddiad i'r dasg ac am gyflawni adroddiad mor gynhwysfawr a thrylwyr.  Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl sefydliadau ac unigolion a gymerodd ran. Drwy gyfrannu o'u hamser a’u harbenigedd gwerthfawr fe’i gwnaethant hi'n bosibl archwilio'r sefyllfa bresennol yn drylwyr, heb sôn am helpu i lunio ei hargymhellion hi ar gyfer trefnu cynnal trosolwg yn y dyfodol.    

Atodiad

Cylch gorchwyl yr Adolygiad Annibynnol ar Reoleiddio a Chynnal Trosolwg o Addysg a Hyfforddiant ôl-Orfodol yng Nghymru, gyda chyfeiriad arbennig at rôl a swyddogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn y dyfodol:

1. Adolygu, dadansoddi a chofnodi'r trefniadau presennol ar gyfer cynnal trosolwg o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru, gan gynnwys:

  • ariannu addysg a hyfforddiant;
  • llywodraethu;
  • sicrhau ansawdd / safonau addysg a hyfforddiant; a 
  • rheoli risg.

2. Cynnig cyngor ar effeithiolrwydd y trefniadau presennol ar gyfer cynnal trosolwg o addysg a hyfforddiant ôl-orfofdol yng Nghymru, gan ei ystyried yng nghyd-destun gwledydd eraill y DU, cymaryddion rhyngwladol perthnasol a thystiolaeth ymchwil.

3. Gwneud argymhellion ar gyfer cynnal trosolwg o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru yn y dyfodol, gyda chyfeiriad arbennig at rôl a swyddogaeth Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Nodi p'un a oes angen deddfwriaeth a threfniadau sefydliadol newydd neu ddiwygiedig er mwyn cyflwyno’r trefniadau a gynigwyd ar gyfer y dyfodol yng ngoleuni’r gwerthusiad hwn.