Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r canfyddiadau a'r argymhellion a wnaed gan Ruth Marks, cyn-Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn dilyn ei hadolygiad annibynnol o rôl a swyddogaethau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), yn cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae’r adolygiad hwn, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig  asesiad amserol i ddangos a oedd angen diwygio a gwella gwaith rheoleiddio ac arolygu presennol AGIC. Roedd yn bwysig bod yr adolygiad yn edrych nid yn unig ar waith AGIC, ond ei fod hefyd yn ystyried profiadau arolygiaethau eraill yn y DU, a dysgu gwersi ganddynt, yn ogystal â chymryd gwaith perthnasol ehangach ar archwilio ac arolygu i ystyriaeth – gan gynnwys y gwaith ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a'r goblygiadau posibl yn sgil hynny i swyddogaethau AGIC.

Yn sgil yr agenda hon, gofynnwyd i Ms Marks ddatblygu cynigion i fynd yn sail i Bapur Gwyrdd a fyddai’n pennu cwmpas Bil yn y dyfodol a fydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach eleni. Gofynnwyd iddi hefyd wneud argymhellion ar gyfer unrhyw gamau i'w gweithredu ar unwaith yr oedd yn teimlo y dylid eu rhoi ar waith cyn i unrhyw newid deddfwriaethol posibl ddigwydd a allai fod angen.

Yn ei hadroddiad Y Ffordd Ymlaen: Dod yn Gorff Arolygu a Gwella, casgliad Ms Marks yw bod rôl a swyddogaethau AGIC ar y cyfan yn addas at y diben. Mae'n cydnabod bod AGIC yn gorff rheoleiddio cymhleth, sy'n gyfrifol am reoleiddio ac arolygu nifer ac amrywiaeth sylweddol o gyrff iechyd ar draws y GIG a'r sector annibynnol.

Yn fwyaf penodol, mae'n ein hatgoffa nad oes modd i’r arolygiaeth ei hun sicrhau gofal diogel ac o ansawdd uchel – rhaid inni dderbyn mai'r drydedd linell amddiffyn yn unig rhag methiannau difrifol o ran ansawdd yw rheoleiddio ac arolygu gofal iechyd. Y llinell amddiffyn gyntaf yw'r gweithwyr proffesiynol eu hun ar y rheng flaen, a'r ail linell amddiffyn yw'r byrddau a'r uwch arweinwyr yn ein byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG.

Fodd bynnag, mae canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn pwysleisio sut y gallwn gryfhau'r drydedd linell amddiffyn hon ymhellach. Mae hynny'n cynnwys mwy o gydweithredu a chydweithio ag arolygiaethau a chyrff arolygu eraill er mwyn helpu i hwyluso'r gwaith o rannu gwybodaeth a datblygu rhaglenni arolygu sy'n gymesur â'r risg.

Yn benodol, mae'r adroddiad yn argymell bod angen i AGIC ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru weithio ar y cyd i ddatblygu fframwaith arolygu integredig i graffu ar berfformiad sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y pen draw, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a fydd y ddwy arolygiaeth yn uno yn y tymor hir.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod y gwaith cydweithio â'r cynghorau iechyd cymuned yn cael ei gryfhau, gan gynnwys bod aelodau'r cynghorau iechyd cymuned yn cyflawni elfen leyg gwaith arolygu AGIC yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ysgogi AGIC i ddysgu ar y cyd a gwella, ac mae'n argymell iddi ymgymryd â mwy o adolygiadau thematig fel cyfrwng allweddol i gyflawni hynny.  Mae hefyd yn argymell camau gweithredu i ddatblygu mwy o gydweithredu ar draws y GIG a'r sector gofal iechyd annibynnol, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r un safonau.

Roedd Ms Marks yn argymell bod pedair swyddogaeth y dylai AGIC ystyried rhoi'r gorau i fod yn gyfrifol amdanynt. Mae'r swyddogaethau hynny’n ymwneud â goruchwylio bydwragedd; cynnal adolygiadau o achosion o ddynladdiad a gyflawnwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl; cyfrannu at ymchwilio i farwolaethau yng ngharchardai Cymru ar gyfer Ombwdsmon Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf, ac asesu asiantaethau nyrsio.

Ar y cyfan, mae'r adroddiad yn gwneud cyfanswm o 42 o argymhellion y gellir eu grwpio yn ôl wyth prif thema. O'r rhain, mae 25 ohonynt yn berthnasol i AGIC, 14 i Lywodraeth Cymru, a thri ohonynt i'w hystyried ar y cyd. Maent yn cynnwys camau posibl i gryfhau annibyniaeth AGIC.

Hoffwn ddiolch i Ruth Marks am ei hadroddiad cynhwysfawr a thrylwyr. Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried ei chanfyddiadau a'u hargymhellion yn ofalus, er mwyn iddynt fynd yn sail i unrhyw gynigion a fydd yn cael eu rhoi yn y Papur Gwyrdd ar gyfer deddfwriaeth i ddatblygu a chryfhau diwylliant o sicrhau gwelliant ac ansawdd cyson ar gyfer yr holl ofal sy’n cael ei ddarparu i bobl yng Nghymru yn y dyfodol.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.