Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf wedi derbyn adroddiad yr Adolygiad Annibynnol o Rôl a Swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru gan Dr Mike Shooter.

Atodir copi o’r adroddiad ynghyd â fersiwn arbennig i bobl ifanc, gyda’r Datganiad hwn. Mae'r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion eang ar gyfer Llywodraeth Cymru. Byddaf yn ystyried y rhain yn fanylach  gyda’r nod o wneud datganiad arall,  yn y Flwyddyn Newydd.

Hoffwn ddiolch i Dr Shooter am arwain yr adolygiad a diolch i'r Comisiynydd Plant presennol a'i swyddfa, yn ogystal â’r nifer sylweddol o rhanddeiliaid, gan gynnwys plant a phobl ifanc, am eu cyfraniad rhagweithiol i'r adolygiad. Mae hyn yn dystiolaeth o’r ffaith ein bod oll yn gweithio tuag at yr un nod, sef cael Comisiynydd Plant i Gymru sydd mor gryf ac effeithiol â phosibl, a fydd yn hyrwyddwr dros ein plant a phobl ifanc.