Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel rhan o’m hymrwymiad parhaus i gefnogi’r ddarpariaeth o gartrefi newydd yng Nghymru, cafodd gwaith ymchwil ei gomisiynu gennyf yn gynharach eleni i nodi a chyfrif safleoedd sydd heb eu datblygu yng Nghymru fel rhan o’r problemau sy’n gysylltiedig â chytundebau S.106.  Rwy’n falch o gyhoedd fy mod wedi derbyn yr adroddiad ymchwil terfynol ac wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.  

Mae’r gwaith ymchwil wedi dangos bod safleoedd lle y bu oedi yn bennaf gysylltiedig â datblygiadau preswyl, gydag oddeutu 7.600 o gartrefi yn cael eu hatal ar hyn o bryd ledled Cymru.  Mae’r gwaith ymchwil wedi edrych ar y rhesymau pam y bu oedi ar safleoedd ac wedi gwneud cyfres o argymhellion.  

Daeth y gwaith ymchwil i’r casgliad nad oedd un ateb ar gyfer y rheswm dros yr oedi ar safleoedd ble yr oedd cytundebau S.106 yn rhan o’r rheswm.  Cafodd nifer o argymhellion eu nodi i sicrhau bod y system yn fwy tryloyw, annog mwy o ymwybyddiaeth o’r broses a gwybodaeth am y prosesau o fewn y system, a thrwy hynny leihau rhai o’r achosion o oedi sy’n cael eu nodi ar hyn o bryd.  Byddaf yn ystyried yr argymhellion yn fanwl ac yn eu datblygu ar y cyd â’r awdurdodau cynllunio lleol a’r diwydiant datblygu.


Mae’r gwaith ymchwil wedi dangos yn glir bod hyfywedd safle yn broblem sylweddol ynddo ei hun a’i fod yn arwain at oedi gyda datblygiadau preswyl.  Rwyf wedi ystyried casgliadau ac argymhellion yr adroddiad, o ran hyfywedd, ac o’r farn bod angen edrych yn drylwyr ar unrhyw faterion sy’n gwneud yr asesiad o hyfywedd cartrefi ac o ddarparu cartrefi yn anoddach.  

Byddaf yn datblygu prosiect i sicrhau dealltwriaeth ar y cyd rhwng y diwydiant adeiladu tai a’r awdurdodau cynllunio lleol o bwysigrwydd asesiadau cywir o hyfywedd ar bob cam o’r broses gynllunio.  Bydd y prosiect yn ystyried hyfywedd cynllunio o safbwynt holistaidd a hydredol, o nodi safleoedd wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol i asesu’r safle ar y cam rheoli datblygiad.  Rwy’n disgwyl i bob rhanddeiliad yn y broses ddatblygu gymeryd rhan yn llawn yn y prosiect hwn i lywio argymhellion, canlyniadau ac atebion.