Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol wedi bod yn elfen ganolog o waith Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli. Mae'r llywodraeth hon yn fwy penderfynol nag erioed o greu Cymru decach a Chymru fwy cyfartal. Heddiw, mae'n bleser gennyf ddweud bod yr Adroddiad Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cael ei gyhoeddi, sy’n gam pwysig ar y daith i wireddu’n breuddwyd. Mae hwn yn ddarn sylweddol o ymchwil a gomisiynwyd fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu clir er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hystyried a'u diogelu'n llawn, yn enwedig yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.
Arweiniwyd yr ymchwil, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2020, gan Brifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, Diverse Cymru a Cymru Ifanc. Ei nod oedd ymchwilio i ffyrdd o gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gwneud argymhellion ar gyfer newidiadau deddfwriaethol, newidiadau polisi, newidiadau i ganllawiau neu unrhyw newid arall a fyddai’n cyflawni'r amcan hwn.
Roedd mwy o frys i’r gwaith yn sgil COVID-19, oherwydd i’r pandemig dynnu sylw at anghydraddoldebau dybryd yn ein cymdeithas. Mae'r anghydraddoldebau hyn wedi cael eu harchwilio a'u cofnodi mewn adroddiadau pwerus gan is-grŵp economaidd-gymdeithasol y Prif Weinidog o’r Grŵp Cynghorol Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar COVID-19 a'r Fforwm Cydraddoldeb Anabledd, ymhlith eraill.
Roedd COVID-19 hefyd yn golygu bod angen newidiadau i'r cynllun ymchwil gwreiddiol, ac addasu rhai o'r prif ddulliau ymgynghori yn sgil cyfyngiadau’r cyfnodau clo. Er gwaethaf yr heriau hyn, llwyddodd y tîm ymchwil i barhau â'u gwaith pwysig. Y canlyniad yw adroddiad eang sy'n cynnwys adolygiad cynhwysfawr o ddeddfwriaeth, polisi a chanllawiau sy'n bodoli eisoes, gan ystyried pa mor gyson y maent â’i gilydd a’r ffydd y maent yn cael eu rhoi ar waith. Ystyriodd y tîm ymchwil nifer fawr o safbwyntiau rhanddeiliaid hefyd a llwyddodd i dynnu sylw at themâu a sylwadau allweddol a gododd o ganlyniad i hynny.
Wrth i ni barhau i frwydro gyda realiti a chanlyniadau’r pandemig, mae amcanion llesiant Llywodraeth Cymru, a nodir yn ein Rhaglen Lywodraethu, yn canolbwyntio ar y meysydd lle mae angen gweithredu i'n helpu i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiad ymchwil hwn yn nodi'r ffordd mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol unigolion a chymunedau yng Nghymru, a gall helpu i lywio ein gwaith yn y dyfodol wrth i ni gyflawni'r amcanion hyn.
Bydd yr argymhellion yn yr ymchwil nawr yn cael eu hystyried yn fanylach i weld sut y gellid eu hintegreiddio i’r gwaith sydd eisoes yn digwydd a gwaith y dyfodol. Yn hyn o beth, mae rhai camau pwysig eisoes wedi'u cymryd yng Nghymru. Mae’n Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru. Heb os, bydd yr adroddiad yn llywio'r ffordd orau o ddatblygu’r gwaith ymgorffori hwn.
Yn ogystal, mae cychwyn y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yng Nghymru ym mis Mawrth 2021 yn darparu mecanwaith allweddol i gefnogi’r gefnogi adferiad Cymru o Covid-19, ac yn sicrhau ein bod yn cymryd camau pwysig i ailadeiladu Cymru sy’n decach ac yn fwy cyfartal. Mae'r adroddiad hwn yn nodi opsiynau ychwanegol ar gyfer cryfhau’r gwaith hwn a’r gwaith ar gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Pan fo opsiynau ar gyfer modelau deddfwriaethol newydd ddod i'r amlwg o ganlyniad i'r ymchwil, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y rhain, ac yn trafod ag unrhyw gyrff cyhoeddus y gallai'r newidiadau arfaethedig effeithio arnynt.
Mae cael gafael ar yr ymchwil hwn yn gam pwysig arall ar ein taith yn y gwaith hanfodol o gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Heb os, bydd yn ysgogi llawer iawn o drafodaethau a chamau gweithredu, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgais i lunio dull unigryw Gymreig o greu cymdeithas gyfiawn a chyfartal, lle gall pobl fwynhau ac arfer eu hawliau o fewn Cymru gryfach, decach a mwy cyfartal.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.