Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Y llynedd, fe wnes i gomisiynu gwaith ymchwil i arferion awdurdodau lleol Cymru o ran rheoli dyledion y dreth gyngor ac adennill ôl-ddyledion. Mae’r ymchwil yn rhan o’n hagenda ehangach i gefnogi’r gwaith o ddiwygio llywodraeth leol ac i helpu i gyflawni ein hymrwymiad yn Symud Cymru Ymlaen i wneud y dreth gyngor yn decach i ddinasyddion.
Mae’r gwaith ymchwil bellach wedi’i gwblhau, a chaiff ei gyhoeddi heddiw. Mae’r adroddiad yn helpu i lenwi bwlch yn y dystiolaeth sydd ar gael ynghylch sut mae awdurdodau lleol yn mynd ati ar hyn o bryd i reoli ôl-ddyledion – a hynny trwy archwilio’r system o’u safbwynt hwy.
Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd y dystiolaeth sy’n bodoli’n barod ynghylch effaith y dreth gyngor a chasglu ôl-ddyledion ar aelwydydd incwm isel. Yn ogystal, cynhaliwyd cyfweliadau gydag ymarferwyr o bob un o’r 22 awdurdod lleol er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o’u dulliau presennol o fynd ati gasglu ac adennill ôl-ddyledion y dreth gyngor yng Nghymru.
Byddaf yn ystyried y canfyddiadau’n ofalus cyn ymateb i’r argymhellion, a thros y misoedd nesaf byddaf yn cydweithio’n agos â llywodraeth leol i edrych ar gyfleoedd i ddefnyddio dulliau mwy rhagweithiol, sy’n canolbwyntio ar y dinesydd, i helpu i atal pobl rhag mynd i ddyledion ac i’r dyledion hynny waethygu.
Rydym yn gwybod bod llawer o’r aelwydydd hyn yn ei chael yn anodd ymdopi ag effeithiau newidiadau Llywodraeth y DU i’r system les ac rwy’n parhau â’m hymrwymiad i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i leddfu’r canlyniadau i’r rhai yr effeithir arnynt.