Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Adroddiad y Warant i Bobl Ifanc: y penawdau, sy'n ymdrin â'r cyfnod o fis Mawrth  2024 i fis Mawrth 2025. 

Mae’r Warant i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth yn barhaus i bobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig.

Ers ei lansio ym mis Tachwedd 2021, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cefnogi dros 48,500 o bobl ifanc i gael mynediad at raglenni cyflogadwyedd a sgiliau.  Mae dros 6,000 o bobl ifanc wedi symud ymlaen i gyflogaeth ac mae dros 725 wedi dechrau eu busnes eu hunain.

Yn ddiweddarach heddiw byddaf yn cyflwyno datganiad llafar i'r Senedd ar y Warant i Bobl Ifanc.