Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn rhan hanfodol o fywyd ysgol yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae'n bwysig annog ein pobl ifanc i fagu hyder a meithrin ystod o berthnasoedd boddhaus a fydd yn gynhaliaeth iddynt ar y pryd ac yn ystod eu bywyd. Rwy’n benderfynol o sicrhau bod y pwnc pwysig hwn yn cael ei drafod mewn ysgolion, a hynny i’r safon uchaf bosibl. Mae’n bwysig bod staff ac athrawon wedi eu harfogi yn briodol i ddiwallu anghenion a phrofiadau eu dysgwyr wrth iddynt dyfu ac aeddfedu.
Ym mis Mawrth 2017, sefydlais Banel o Arbenigwyr Addysg Rhyw a Pherthnasoedd, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Emma Renold o Brifysgol Caerdydd. Gofynnwyd i’r panel nodi materion a chyfleoedd i gefnogi Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn y cwricwlwm presennol. Gofynnwyd iddynt hefyd roi cyngor ac argymhellion i’r ysgolion arloesi wrth iddynt ddatblygu’r cwricwlwm newydd.
Rhaid i’n hysgolion yng Nghymru ddarparu amgylchedd gofalgar, sy’n sicrhau bod pobl ifanc yn mwynhau dysgu ac yn ysgogiad iddynt lwyddo mewn bywyd, mewn amgylchedd ddysgu gynhwysol. Gydol ein bywyd, o’r cychwyn cyntaf, rydym yn cychwyn meithrin perthynas â phobl eraill, ein teulu a’n ffrindiau a’r rheini sydd yn y byd o’n cwmpas. Y perthnasoedd hyn sy’n ein siapio fel oedolion. Rhaid i’n system addysg adeiladu ar yr egwyddorion hyn sef, cydraddoldeb a chreu ystafell ddosbarth sydd yn sefyll yn gadarn yn erbyn anoddefgarwch a chasineb.
Mae Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yn gwneud cyfraniad pwysig iawn o ran sicrhau bod ein pobl ifanc yn parchu eu hunain ac eraill. Mae'n meithrin gwerthfawrogiad o amrywiaeth fel eu bod yn gallu meithrin a chynnal ystod eang o berthnasoedd. Mae hefyd yn sicrhau bod y perthnasoedd hyn yn rhai iach, yn rhai priodol i’w hoedran ac yn rhai sydd wedi’u seilio ar barch i’r naill a’r llall.
Felly, mae’n bwysicach nag erioed bod ysgolion yn gallu cefnogi disgyblion drwy Addysg Rhyw a Pherthnasoedd. Rhaid i'r addysg hon fod yn briodol o ran eu datblygiad, yn ffeithiol ac o ansawdd uchel, ac y gall yr athrawon gael gafael ar wybodaeth bellach a chyngor arbenigol.
Mae creu system addysg lle y gall ein pobl ifanc fynd o nerth i nerth, a datblygu’n oedolion iach a hyderus yn greiddiol i’n Cenhadaeth Genedlaethol. Dim ond trwy helpu athrawon i ddatblygu eu gwybodaeth, eu hyder a’u sgiliau y mae modd i ni wneud hyn. Yna gall athrawon ymdrin yn gadarnhaol ag iechyd corfforol, iechyd meddyliol ac iechyd emosiynol eu disgyblion. Mae’r cwricwlwm newydd, a’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant yn sicrhau bod y blaenoriaethau hyn, a phynciau fel Rhyw a Pherthnasoedd yn ganolog i’r dysgu.
Mae argymhellion yr Athro Renold yn rhoi cwmpas i ni ystyried sut i ymdrin â phynciau fel Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae’n bwysig gweld sut y gall ysgolion ymdrin â thegwch rhywedd a pherthnasoedd iach yn fwy effeithiol.
Drwy gael Addysg Rhyw a Pherthnasoedd o ansawdd uchel, gall ysgolion greu mannau lle y gall plant a phobl ifanc feithrin hyder i ofyn am gyngor a chymorth ynghylch pynciau fel trais a cham-drin domestig. Gallant fod yn sicr, fel hyn, y byddant yn cael eu cefnogi i fyw bywyd heb drais a gorfodaeth.
Hoffwn ddiolch i’r Athro Renold ac i aelodau’r panel o arbenigwyr am eu gwaith diflino yn ymchwilio ac yn llunio’r adroddiad gwych hwn. Bydd y dull a fabwysiadwyd gan y panel wrth lunio’r argymhellion, o fynd ati ar sail hawliau a bod yn gynhwysol, yn rhoi tystiolaeth amhrisiadwy i’r Ysgolion Arloesi wrth iddynt edrych ar strwythurau’r cwricwlwm, ac yn ehangach na hynny, y dulliau gweithredu ysgol gyfan o ran ymdrin ag Addysg Rhyw a Pherthnasoedd.
Rwyf nawr am ystyried yr argymhellion a byddaf yn cyhoeddi f’ymateb yn fuan yn y flwyddyn newydd.