Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae endometriosis yn gyflwr cyffredin sy'n effeithio ar gynifer ag 1 o bob 10 o fenywod mewn oed i gael plant. Er efallai na fydd gan rai menywod unrhyw symptomau amlwg o'r cyflwr, rwyf wedi clywed gan eraill sydd wedi dioddef symptomau sylweddol sydd wedi effeithio cryn dipyn ar ansawdd eu bywydau.

Llynedd, yn dilyn adroddiad gan Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW), sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen gan Brif Weithredwr GIG Cymru i adolygu gwasanaethau endometriosis yng Nghymru.

Roedd y grŵp, dan gadeiryddiaeth yr obstetregydd ymgynghorol a'r gynaecolegydd, Dr Richard Penketh, yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o glinigwyr, academyddion a chleifion.    Fe ystyriodd nifer o ffynonellau data, gan gynnwys canllawiau ac ymchwil diweddar NICE yn ogystal â thystiolaeth newydd a gynhyrchwyd yng Nghymru.

Hoffwn i ddiolch i holl aelodau'r grŵp am eu gwaith caled yn paratoi'r adroddiad hwn, yr wyf mor falch ei gyhoeddi heddiw. Mae'r adroddiad hwn yn ddechrau proses a fydd yn gwella bywydau menywod yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio gan endometriosis. Ar ben hynny, mae'n tynnu sylw at fanteision gwaith ar y cyd rhwng clinigwyr a grwpiau o gleifion i sicrhau canlyniad cadarnhaol.

Mae'r adroddiad yn disgrifio diffyg dealltwriaeth o endometriosis ymysg rhai gweithwyr iechyd proffesiynol, a'r ffordd y mae'r ddarpariaeth bresennol yn methu â bodloni lefel yr angen. O ganlyniad, gwelwyd oedi i gael diagnosis a gofal clinigol nad oedd o'r ansawdd orau ar rai achlysuron, gan effeithio ar ansawdd bywydau defnyddwyr y gwasanaethau hyn.

Mae'r grŵp yn gwneud nifer o argymhellion i wella gwasanaethau endometriosis a darparu gwell canlyniadau i fenywod. Yn eu plith mae codi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol a hyrwyddo addysg ynghylch llesiant mislifol.

Mae cyfrifoldeb ar fyrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau gynaecoleg o ansawdd uchel, ac mae'n hanfodol iddynt ddarparu llwybr cadarn ac effeithiol, gan gynnwys diagnosis cynnar, i reoli endometriosis. Mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd i ofyn am sicrwydd eu bod yn gweithredu eu gwasanaethau gan gyflawni canllawiau NICE ar endometriosis.

Rhaid i faterion iechyd difrifol sy'n effeithio ar fenywod gael sylw effeithiol a phriodol. Am y rheswm hwn, rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod a sefydlwyd yn ddiweddar dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, i ystyried holl argymhellion yr adroddiad hwn ynghyd â'i waith ar dâp a rhwyll y wain.

Bydd y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod yn darparu arweiniad strategol er mwyn gweithredu ar draws Cymru gyfan i chwalu rhwystrau a chyfuno llwybrau gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal trydyddol, fel bod iechyd menywod yn cael ei reoli yn y gymuned lle bynnag y bo'n bosibl gan leihau'r angen am ymyrraeth.

Adroddiad: https://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/endometriosis-care-in-Wales/?lang=cy