Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Awst 2022, sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i edrych yn fanwl ar sefyllfa’r Gymraeg a’r heriau y mae’n hiaith yn eu hwynebu fel iaith gymunedol. 

Roedd cam cyntaf y Comisiwn yn edrych ar sefyllfa’r Gymraeg mewn ardaloedd lle ceir dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg. Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Comisiwn, Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg ym mis Awst 2024. Bryd hynny, nododd y Comisiwn ei fwriad i gyhoeddi adroddiad penodol ar gynllunio gwlad a thref. Gwnaethpwyd hyn fel bod modd ystyried y maes pwysig hwn ar lefel genedlaethol yn ogystal ag edrych yn benodol ar ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. 

Ym mis Awst 2024, sefydlwyd ail gam y Comisiwn er mwyn edrych ar sefyllfa’r Gymraeg mewn ardaloedd eraill o Gymru a thu hwnt.

Mae adroddiad diweddaraf y Comisiwn ar y Gymraeg a Chynllunio Gwlad a Thref wedi’i gyhoeddi heddiw. Tra bod yr adroddiad hwn yn sefyll ar ei draed ei hun, dylid ei ddarllen ochr yn ochr ag adroddiad Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg yn ogystal â gwaith Cam 2 y Comisiwn - disgwylir eu hadroddiad yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Hoffwn ddiolch i aelodau’r Comisiwn am gyflwyno’r adroddiad ychwanegol hwn. Fel y mae Dr Simon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn, wedi ei nodi, mae nifer o bobl wedi cyfrannu eu hamser a’u harbenigedd i’w gynnwys a hoffwn innau ddiolch yn fawr iddynt am eu gwaith. Byddwn yn mynd ati i ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad dros y misoedd nesaf.

Rydym wrthi’n gweithio ar ein hymateb i argymhellion adroddiad Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg ac rwy’n gobeithio cyhoeddi ein hymateb i’r adroddiad yn ystod Eisteddfod yr Urdd, ym Mharc Margam ym mis Mai.