Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rydym yn cyhoeddi Adroddiad Terfynol y Gwerthusiad o’r Rhaglenni Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol  (RhLlRhC) (http://gov.wales/statistics-and-research/evaluation-national-literacy-numeracy-programmes/?lang=en ) gan y contractwyr ymchwil annibynnol SQW.

Fel Llywodraeth, rydym yn gwybod bod newid systematig yn cymryd amser os yw am gael effaith hirdymor. Rydym eisiau cwricwlwm sy’n darparu’r sgiliau, y wybodaeth, yr uchelgais, yr hyder a’r cymwysterau sydd eu hangen ar ein dysgwyr er mwyn cael llwyddiant unigol a chenedlaethol.

Ym mis Mawrth 2016, cafodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i lythrennedd a rhifedd ei ailgadarnhau yn sgil cyhoeddi’r Rhaglen Llythrennedd a Rhifedd Genedlaethol – cynllun gweithredu strategol, sy’n eglugo’r camau y byddwn yn parhau i’w cymryd i wella yn y meysydd hollbwysig hyn, a hynny mewn un ddogfen.

Datblygu continwwm o ddysgu ar gyfer y sgiliau hyn o’r Cyfnod Sylfaen i’r cymwysterau TGAU diwygiedig oedd prif ddiben ein diwygiadau er mwyn sicrhau gwelliant cyson tymor hir, a bydd yn parhau i fod yn rhan ganolog o’r gwaith diwygio addysg sydd ar y gweill.

Gyda hyn mewn golwg, rwy’n croesawu canfyddiadau’r gwerthusiad o’r RhLlRhC. Mae’n galonogol iawn bod ysgolion wedi croesawu ein Rhaglenni, a’u rhoi ar waith mewn ffordd mor effeithiol, a bod polisïau allweddol, megis y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a’r Profion Cenedlaethol, wedi arwain at newidiadau mewn cynlluniau strategol er lles pob un o’n dysgwyr.

Yn gryno, mae’r adroddiad terfynol yn cydnabod y cryfderau yn ein system addysg, gan gynnwys:

• gwelliannau amlwg yn y lefelau cyrhaeddiad dros bum mlynedd yr astudiaeth a chau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg.

• lefelau uchel o waith ysgol i ysgol;

• cytundeb eang ynghylch nodau’r RhLlRhC a chyfrifoldeb cyfunol i wella.

Mae’r adroddiad yn darparu amryw o argymhellion i’w hystyried hefyd, ac rydym yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â nhw. Daeth yr adolygiad i’r casgliadau canlynol:

• mae gan rai ysgolion deimladau cymysg ynglŷn â’r cymorth y maent wedi’i gael i gyflwyno’r RhLlRhC gan Lywodraeth Cymru a Chonsortia. Rwy’n cydnabod yr angen i sicrhau bod ysgolion yn parhau i gael cymorth llawn er mwyn cyflawni mewn perthynas â llythrennedd a rhifedd. Rwyf eisiau eich sicrhau y byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cymorth a gweithio gyda’n partneriaid mewn Consortia Addysg Rhanbarthol i sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.

• mae rhai ysgolion angen cymorth o hyd i roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRhC) ar waith yn effeithiol. Yr FfLlRh yw un o bolisïau allweddol yr RhLlRhC, felly mae’n hollbwysig bod gan bob ysgol yr hyder i’w roi ar waith yn llwyddiannus. Mae’r FfLlRh yn cael cefnogaeth barhaus, gan gynnwys cymorth uniongyrchol trwy’r consortia uchod a phecyn cynhwysfawr o ganllawiau dwyieithog sydd ar gael trwyn Dysgu Cymru. Byddwn yn parhau i helpu ysgolion gyda’r FfLlRh wrth i anghenion gael eu nodi.

• yn ystod y cyfnod gwerthuso, daeth ymarferwyr yn fwyfwy hyderus ynglŷn â gwerth data Profion Cenedlaethol fel asesiad cywir o gyflawniad mewn llythrennedd a/neu rifedd. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw unffurfiaeth yn y ffordd roedd y data’n cael ei ddefnyddio. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Consortia Addysg Rhanbarthol i annog ysgolion i ddefnyddio’r wybodaeth ddiagnostig y gall y profion ei darparu. Bydd yr asesiadau personol newydd y byddaf yn eu cyflwyno’n raddol o flwyddyn academaidd 2018/19 ymlaen yn darparu adborth i ysgolion fel y gallant gynllunio’r camau dysgu nesaf ac asesu cynnydd.

Hoffwn gloi trwy ddiolch i ymarferwyr am eu hymroddiad a’u hymdrechion i’n helpu ni i gyflawni ein nod o wella sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr – gan weithio gyda’n gilydd, rydym yn gwneud cynnydd mawr.