Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy'n cyhoeddi adroddiad gwerthuso annibynnol y prosiect “Defnyddio Doniau Cymru i Wella'r Byd Caffael”. Prosiect a gafodd £11 miliwn o arian cyfatebol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) o fis Gorffennaf 2010 i fis Mehefin 2015 oedd hwn. Nod y prosiect oedd gwella sgiliau caffael y sector cyhoeddus i sicrhau bod Cymru yn cael y gwerth mwyaf o'r swm o £5.5 biliwn a wariwyd ar nwyddau a gwasanaethau allanol.

Mae'r prosiect wedi helpu i wella'r broses o fabwysiadu egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Rhagfyr 2012 ac eto, ar ôl ei ddiwygio, ym mis Mehefin 2015.

Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y prosiect Defnyddio Doniau Cymru wedi helpu i gyflawni amrywiaeth eang o ganlyniadau ac effeithiau sylweddol a fydd yn dod â manteision parhaus o ran caffael cyhoeddus yng Nghymru.  Mae hyn yn cynnwys:

Y Fforwm Caffael Creadigol

Mae'r fforwm, sy'n cynnwys y tair prifysgol yng Nghymru sydd ag arbenigedd ym maes cadwyni cyflenwi (Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru), wedi cryfhau'r cysylltiadau rhwng y byd academaidd, gwneuthurwyr polisi a gweithwyr caffael proffesiynol yn ogystal â chefnogi digwyddiadau uchel eu proffil megis Wythnos Gaffael a Procurex Cymru, sydd wedi dod â syniadau arloesol o bedwar ban byd i Gymru. Hefyd, roedd y prosiect yn cefnogi sefydlu Academi Arferion Gorau ym Maes Caffael er mwyn nodi arferion gorau rhyngwladol a'u lledaenu ar draws Cymru.

Hyfforddiant ac Addysg

Mae staff ym maes caffael wedi gwella eu sgiliau drwy raglen hyfforddi fer sydd wedi ategu'r gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i unigolion sy'n astudio ar gyfer aelodaeth o Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi (CIPS) ac ar gyfer cymwysterau academig megis MSc mewn Caffael Cyhoeddus. Mae'r adroddiad yn dweud bod yr hyfforddiant wedi cael ei dargedu'n dda a'i fod yn berthnasol i'r heriau sydd o flaen y bobl sy'n gweithio ym maes caffael nwyddau a gwasanaethau.

Y Rhaglen Weithredol Caffael i Hyfforddeion (TPEP)

Hefyd, rydym wedi ychwanegu at allu'r proffesiwn caffael drwy recriwtio 28 o hyfforddeion newydd a gymerodd ran mewn rhaglen hyfforddi ac addysgu wrth weithio mewn amrwyiaeth o sefydliadau'r sector cyhoeddus.   Roedd yr hyfforddiant a'r addysg yn cynnwys cymhwyster CIPS, cymhwyster rheoli prosiect PRINCE2, a hyfforddiant mewn arwain a rheoli. Mae'n galonogol bod pob un o'r hyfforddeion ond dau wedi ennill swyddi parhaol ym maes caffael.  

Caffel Electronig

Mae cyrff cyhoeddus hefyd wedi cael cefnogaeth drwy'r prosiect i gyflymu'r broses o fabwysiadu e-gaffael.  Mae hyn wedi helpu i symleiddio gweithio gyda chyflenwyr, yn enwedig busnesau bach a chanolig, hybu proses gaffael fwy cydweithredol ar draws y sector cyhoeddus, ac mae wedi darparu gwybodaeth fwy diweddar a dibynadwy ynghylch gwariant sefydliadau a gwybodaeth arall am fusnes.


Cydweithredu ac Arloesi

Mae'r prosiect hwn wedi datblygu canllawiau i brynwyr a chyflenwyr ar gyfer gwneud ceisiadau ar y cyd, ac wedi cefnogi nifer o raglenni peilot, sydd wedi profi y gall busnesau bach gydweithredu â'i gilydd i gynnig am gontractau mwy a'u hennill.  Hefyd, cefnogodd y prosiect gystadlaethau i ddod o hyd i atebion i broblemau cymhleth yn y sector cyhoeddus drwy ddefnyddio darpariaethau yn rheoliadau caffael yr UE i hybu arloesi.


Rwy'n falch bod y gwerthusiad wedi cydnabod yr hyn a gyflawnwyd drwy'r prosiect ac wedi nodi bod achos cryf i o blaid sefydlu prosiect dilynol i adeiladu ar y sail hon. Mae hyn yn atgyfnerthu fy ymrwymiad i gynllunio adnoddau proffesiynol, egwyddor allweddol yn Natganiad Polisi Caffael Cymru.
Yn ôl y gwerthusiad mae rhanddeiliaid o blaid prosiect dilynol ar y cyfan ac ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn paratoi achos busnes i sicrhau cyllid ychwanegol o gronfeydd yr UE ar gyfer prosiect o'r fath.