Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Heddiw cyhoeddais adroddiad Cyfnod 1 a Chyfnod 2 ar Sŵn Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer a Hawliau Datblygu a Ganiateir yng Nghymru.
Mae hawliau datblygu a ganiateir presennol Cymru i osod pwmp gwres ffynhonnell aer yn ei gwneud yn ofynnol i'w osod o leiaf 3 metr o bellter o ffin y cymydog, er mwyn lleihau'r potensial o lygredd sŵn.
Rydym am annog trigolion i drosglwyddo o wresogi tanwydd ffosil i ddewisiadau eraill carbon isel, ond heb greu niwsans sŵn. Felly, gwnaethom gomisiynu arbenigwyr acwstig i ymchwilio i'r rhesymeg pellter hwn, i gaffael ac adolygu tystiolaeth gysylltiedig, ac i argymell a ddylid newid yr hawliau datblygu a ganiateir.
Byddwn yn adolygu argymhellion yr adroddiad a byddwn yn rhoi diweddariad maes o law.