Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rydym yn cyhoeddi Adroddiad Interim ar y Gwerthusiad o’r Rhaglenni Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Rwyf wedi ei gwneud yn glir fy mod am greu system addysg o safon ryngwladol, ac felly rwy’n croesawu casgliadau’r adroddiad gwerthuso interim hwn a luniwyd gan ein contractwyr ymchwil annibynnol yn SQW. Nod polisïau uchelgeisiol ein Rhaglenni Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yw sicrhau gwelliannau cynaliadwy tymor hir i’r holl ddysgwyr yma yng Nghymru.

Mae’r adroddiad interim yn dangos lle rydym yn gwneud yn dda, ac mae’n hynod galonogol bod yna gefnogaeth i’n rhaglenni, a bod y polisïau allweddol wedi arwain at newidiadau mewn cynllunio strategol er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy tymor hir i’n holl ddysgwyr.

Cafodd y gwaith maes ei wneud rhwng mis Medi 2013 a mis Rhagfyr 2014, pan gafodd rhaglenni megis y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, y profion cenedlaethol, a’r rhaglen gymorth genedlaethol, eu cyflwyno mewn ysgolion gyntaf. Mae’n dda bod yna ymwybyddiaeth dda o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ymhlith ysgolion; bod llawer wedi elwa ar ein rhaglen gymorth genedlaethol; a bod cytundeb cyffredinol ynghylch amcanion y Rhaglenni Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Parhau y mae’r gwaith gwerthuso a’r gwaith maes mewn ysgolion, ac yn ystod tymor yr haf cynhaliwyd arolwg o arweinwyr ysgolion er mwyn deall yn well y farn o fewn y proffesiwn. Mae ymchwilwyr annibynnol yn SQW wrthi’n dadansoddi data’r arolwg hwnnw, a bydd y casgliadau’n cael eu defnyddio i bennu’r pynciau trafod ar gyfer ymweliadau astudiaethau achos ag ysgolion. Cynhelir yr ymweliadau hyn ar ddechrau 2016, er mwyn darparu tystiolaeth bellach i’w chynnwys yn yr adroddiad llawn, a fydd yn ein helpu i ddatblygu polisïau yn y dyfodol.

Rwyf wedi ymrwymo i helpu ymarferwyr i sicrhau llwyddiant ym maes llythrennedd a rhifedd, a byddaf yn parhau i fuddsoddi mewn cymorth gan weithio gyda’n partneriaid yn y Consortia Addysg Rhanbarthol i sicrhau ein bod yn cael pethau’n iawn. Byddaf yn cyhoeddi ymateb pellach pan gyhoeddir yr adroddiad llawn y flwyddyn nesaf.