Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at adroddiad gwerthuso Tueddiadau Cenedlaethol Cymru a Gwerthusiad Glastir y Rhaglen Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP) . Mae hyn yn cynnwys y tîm arolygu maes, y dadansoddwyr a'r gwyddonwyr, ac yn bwysig, y tirfeddianwyr a'r ffermwyr sydd wedi croesawu'r tîm arolygu maes i'w tir a'u ffermydd.
Mae'r adroddiad annibynnol hwn yn benllanw buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru mewn gwyddoniaeth o ansawdd uchel dros y 10 mlynedd diwethaf, gan ddangos ein hymrwymiad i bolisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth a monitro a gwerthuso effaith polisïau yn gadarn.
Mae ansawdd ac ehangder y sylfaen dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad yn ddigyffelyb. Mae Cymru'n unigryw ymhlith pedair gwlad y DU o ran bod ganddi raglen fonitro genedlaethol integredig hirdymor ar draws ei hamgylchedd gwledig, sy’n cael ei chynnal. Mae dyluniad y rhaglen yn ein galluogi i gymharu canlyniadau'r 10 mlynedd diwethaf â'r canlyniadau o'r Arolygon Cefn Gwlad hanesyddol sy'n ymestyn yn ôl i'r 1970au.
Wrth ystyried yr adroddiad hwn, mae'n bwysig gwerthfawrogi'n llawn ehangder a graddfa'r Arolwg Maes Cenedlaethol. Mae dros 4,000 o ymweliadau fferm wedi'u cynnal i gasglu data gwyddonol helaeth gan gynnwys: dros 10,000 o asesiadau cynefinoedd, dros 8,000 o samplau pridd, dros 1,000 o arolygon adar, a dros 500km o drawsluniau gloÿnnod byw a pheillwyr wedi'u cerdded.
Mae'r sylfaen dystiolaeth hon o ansawdd uchel yn rhoi cyfle unigryw i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ddysgu a deall ysgogwyr ac effaith newidiadau sy'n digwydd ar draws ein hamgylchedd gwledig yn well.
Hyd yn oed gyda'r sylfaen dystiolaeth unigryw hon sydd o ansawdd uchel, mae bylchau yn ein dealltwriaeth, ac rwy'n diolch i'r awduron am dynnu sylw at ble mae angen gwaith dadansoddi ychwanegol i lenwi'r bylchau hyn.
Rwy'n fwy hyderus o ddeall bod yr adroddiad yn dangos y gellir gweithredu'n amgylcheddol gadarnhaol trwy weithio gyda ffermwyr, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid. Mae'r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth bod Glastir, gan barhau o gynlluniau amaeth-amgylcheddol blaenorol, ar ffermydd sy'n rhan o'r cynllun, wedi darparu manteision i fioamrywiaeth, sefydlogi llawer o ddangosyddion amgylcheddol eraill, ac mewn sawl dangosydd, wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol. Mae'r rhain yn cynnwys tueddiadau cadarnhaol ar gyfer adar ar draws llawer o gynefinoedd a gwelliannau yng cyflwr sawl cynefin.
Mae'r dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod sefydlogrwydd ar draws llawer o ddangosyddion amgylcheddol ar raddfa genedlaethol, gan gynnwys sefydlogrwydd yn y crynodiad carbon cenedlaethol o uwchbridd ac yng nghyflwr llystyfiant coetiroedd ond mae yna hefyd lawer o dueddiadau negyddol newydd a phresennol sy'n peri pryder arbennig. Mae'r rhain yn cynnwys cynnydd triphlyg yn nifer y safleoedd glaswelltir wedi'i wella sy'n fwy na'r trothwy trwytholchi ffosfforws, gostyngiad sylweddol mewn peillwyr, ac roedd infertebratau ymledol yn bresennol ym mwy na hanner y nentydd blaenddwr a arolygwyd. Mae'r adroddiad hefyd yn glir yn ei asesiad o'r diffyg cynnydd o ran datgarboneiddio amaethyddiaeth a chynyddu cyfraddau atafaelu carbon.
Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad, er bod cynnydd wedi'i wneud, os ydym am gyrraedd ein targedau ar gyfer natur, hinsawdd a chynhyrchu bwyd gwydn a chynaliadwy, bydd angen gweithredu mwy trawsnewidiol ac wedi'i dargedu ar draws ardal fwy o dir.
Mae dyluniad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi'i lywio gan y wyddoniaeth orau a'r dystiolaeth o'r ansawdd uchaf, a bydd hynny'n parhau. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i wrando ar ein rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw i sicrhau bod y Cynllun terfynol a ddarparwn yn 2026 yn Gynllun a fydd yn helpu i gefnogi gwydnwch economaidd busnesau ffermio, y broses o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ein hamcanion hinsawdd a natur a'n cymunedau gwledig ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae ERAMMP a'r adroddiad hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol i'n sylfaen dystiolaeth sy'n llywio datblygiad y Cynllun.
Mae un o brif argymhellion yr adroddiad, yr angen am ddull cenedlaethol/sectorol, yn ganolog i ddylunio'r SFS fel Cynllun fferm gyfan, gyda'r uchelgais o gael cymaint o ffermwyr â phosibl yn cymryd rhan i ddarparu'r cyfle gorau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur.
Mae'r hyn a ddysgwyd gan Glastir wedi'i gynnwys yn nyluniad y Gweithredoedd Cyffredinol, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â chynefin lle rydym yn bwriadu ymestyn manteision Glastir i bob fferm sy'n cymryd rhan yn y Cynllun.
Bydd y Gweithredoedd Cyffredinol yn gosod y sylfeini yr ydym yn bwriadu adeiladu’r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol arnynt, a fydd yn cefnogi newid sylweddol pellach. Nod y gweithredoedd hyn fydd cefnogi ymyrraeth wedi'i dargedu i ddarparu cyfleoedd i ffermwyr fynd i'r afael â materion ar raddfa leol neu genedlaethol.
Bydd grŵp rhanddeiliaid sefydledig ERAMMP yn archwilio'r canlyniadau hyn dros y misoedd nesaf, a byddwn yn parhau i dynnu ar yr adroddiad hwn a thystiolaeth arall wrth i'r Cynllun esblygu.
Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth ymateb i'r argyfwng natur a'r hinsawdd ac wrth sicrhau proses cynhyrchu bwyd gwydn a chynaliadwy ac mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad pwysig i'r ymateb hwnnw ac yn ddysgu hanfodol ar gyfer ein cymorth i ffermwyr yng Nghymru yn y dyfodol.