Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC,  Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Sefydlwyd y cynllun peilot Cymorth TB, a fu’n rhedeg rhwng mis Hydref 2013 a mis Mai 2014, er mwyn gweld sut y gallai milfeddygon preifat helpu i reoli achosion o TB, ac ystyried ffyrdd y gallai’r milfeddygon hynny roi rhagor o gymorth i geidwaid buchesi.  Cynhyrchwyd adroddiad gan Brifysgol Caerdydd yn gwerthuso’r cynllun peilot, ac mae bellach wedi’i gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn asesiad cadarnhaol iawn o’r cynllun peilot ac yn gwneud 8 o argymhellion ar ffyrdd o wella rhaglen Cymorth TB yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad yn dangos gwerth milfeddygon preifat wrth reoli TB buchol o safbwynt ffermwyr, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a’r milfeddygon preifat eu hunain. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi eu hamser a’u hymdrech i helpu gyda’r cam cyntaf o’r rhaglen bwysig, unigryw Gymreig hon.

Roedd yr adroddiad yn gwerthuso profiadau ffermwyr, milfeddygon preifat a milfeddygon y Llywodraeth a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun peilot, ac mae’n cynnwys nifer fawr o ddyfyniadau uniongyrchol ganddynt.

Mae’r argymhellion yn adlewyrchu gwybodaeth a phrofiadau’r unigolion a fu’n rhan o’r rhaglen, a gafwyd drwy ffurflenni adborth a dulliau llai ffurfiol. O ganlyniad teimlir bod gennym sylfaen synhwyrol ar gyfer datblygu strategaeth Cymorth TB. Mae’n amlwg bod gwell dealltwriaeth o’r peryglon mewn perthynas â bioddiogelwch a pholisi masnachu yn bwysig, yn ogystal â’r angen i ddatblygu defnydd effeithiol o fapiau a rhannu gwybodaeth. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd hyfforddiant milfeddygol ynghylch TB – y clefyd, yr wyddoniaeth a’r broses reoli. Bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer datblygu rhaglen gynaliadwy, barhaus. Mae’r manylion ymarferol yn destun trafodaeth gyda rhanddeiliaid pwysig ar hyn o bryd, yn arbennig y Byrddau Rhanbarthol Dileu TB. Mae ymateb llawn i argymhellion yr adroddiad yn cael ei baratoi fel rhan o baratoadau ar gyfer cam nesaf y rhaglen

Mae fy swyddogion hefyd yn trafod gydag asiantau mewnol ac allanol posibl, gan gynnwys Rhwydwaith y Gymuned Ffermio (FCN) a’r banciau, ynghylch gwaith partneriaeth dan faner Cymorth TB. Mae amrywiol opsiynau a’r camau nesaf yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, ac fe fyddant yn cael eu cyflwyno’i mi i’w hystyried.