Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd Grŵp Her Sero Net Cymru 2035, dan arweiniad y cyn-Weinidog, Jane Davidson, ym mis Ionawr 2023 i archwilio llwybrau posibl i sero net erbyn 2035, gan gyflawni ymrwymiad penodol yn y Cytundeb Cydweithio ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae gwaith y Grŵp yn dod i ben. Disgwylir i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar 11 Medi. 

Byddaf yn mynychu cyfarfod gyda’r Cadeirydd a'r Grŵp y mis hwn i glywed eu casgliadau allweddol.