Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd y Pwyllgor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, Cymru (CAJTW) ym mis Tachwedd 2013 fel pwyllgor cynghori anstatudol annibynnol i gynghori Gweinidogion Cymru ar dribiwnlysoedd a chryfhau'r system cyfiawnder gweinyddol yng Nghymru. Sefydlwyd CAJTW yn sgil diddymu’r Cyngor Cyfiawnder a Thribiwnlysoedd statudol (AJTC) gan Lywodraeth y DU , a oedd â Phwyllgor Cymreig (Pwyllgor Cymreig AJTC). Bu CAJTW ar waith tan fis Mawrth 2016, ac fe gyflwynodd ei adroddiad etifeddiaeth (Atodiad 1-Saesneg yn unig) imi a'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, a oedd yn gyfrifol am bolisi cyfiawnder yn Llywodraeth flaenorol Cymru.

 

Mae'r adroddiad yn rhoi golwg eang ar gyfiawnder gweinyddol yng Nghymru. Mae'n adeiladu ar adolygiadau blaenorol o ddiwygio tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru gan Bwyllgor Cymreig AJTC yn 2010 a Llywodraeth Cymru yn 2014, ac ymchwil a gomisiynwyd gan Brifysgol Bangor. Mae llawer o'r argymhellion yn gyson â gwaith sydd eisoes ar y gweill mewn ymateb i adolygiadau 2010 a 2014. Mae Llywodraeth Cymru, er enghraifft, wedi sefydlu trefniant i’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol fynd ati i recriwtio a dethol aelodau tribiwnlysoedd yn annibynnol ar ran Gweinidogion Cymru; ac rydym yn gweithio gyda'r Coleg Barnwrol a’r Swyddfa Ymchwiliadau Ymddygiad Barnwrol i sicrhau bod darpariaeth ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig yn adlewyrchu’r ddarpariaeth ar gyfer tribiwnlysoedd sy’n cael eu gweithredu gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi.

Nodir y rhain a materion eraill yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad (Atodiad 2). Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion mewn perthynas â chraffu ar gyfiawnder gweinyddol. Mater i’r Cynulliad Cenedlaethol fydd ystyried hyn. Bydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen â’r camau gweithredu a nodir yn Atodiad 2 er mwyn parhau i gryfhau gwaith y tribiwnlysoedd datganoledig a chyrff eraill sy'n cefnogi ac yn amddiffyn hawliau dinasyddion.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.