Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad Defnydd Ynni yng Nghymru (Trydydd Argraffiad), y diweddaraf yn ein cyfres o adroddiadau ar Ddefnydd Ynni yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein defnydd o ynni. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i fesur cynnydd yng Nghymru o ran llywio a chyflawni ein targedau .

Mae'r adroddiad wedi dangos tueddiadau cadarnhaol yng Nghymru. Yn 2022, cyfanswm defnydd o ynni Cymru oedd 86 TWh, gyda thua 14 TWh o hynny (16%) yn drydan. Cyrhaeddodd cyfanswm y trydan adnewyddadwy a gynhyrchwyd yng Nghymru yn ystod yr un flwyddyn bron i 8 TWh, sy'n cyfateb i 59% o gyfanswm y defnydd o drydan yng Nghymru. Mae hyn yn golygu mai dim ond 11 pwynt canran yn unig y mae Cymru i ffwrdd o'i tharged i gynhyrchu 70% o'i defnydd trydan blynyddol o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030.

Yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy gan gynnwys ein gweledigaeth i ddiwallu cyfwerth â 100% o'n hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035 ac i o leiaf 1.5 GW o gapasiti ynni adnewyddadwy fod yn eiddo lleol erbyn 2035.

Rydym yng nghanol argyfwng newid hinsawdd ac mae'r arwyddion yn glir, oni bai ein bod yn gweithredu ar frys, byddwn yn gwneud niwed i'n planed na fydd modd ei wrthdroi.

Mae bellach yn bwysicach nag erioed ein bod yn bachu ar y cyfle i gael gwared ar ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r her hon, wrth hefyd hyrwyddo twf yn yr economi werdd. Mae'r dystiolaeth yn glir, rhaid inni sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol, gan gydbwyso anghenion ein cymunedau ar yr un pryd.