Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn dilyn cyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, cytunodd y Senedd ar ein targedau datgarboneiddio statudol cyntaf yn 2018. Gosodwyd gostyngiad o 27% mewn allyriadau erbyn 2020 a gostyngiad cyfartalog o 23% dros gyfnod y gyllideb garbon 1. Roedd y targedau yn erbyn ein blwyddyn sylfaen, sef 1990. Y llynedd, yn unol â deddfwriaeth, cyhoeddwyd ein Datganiad Terfynol ar gyfer y Gyllideb Garbon Gyntaf, gan gadarnhau bod Llywodraeth Cymru nid yn unig wedi cyrraedd y targedau ond wedi rhagori arnynt.
Dywedais yn y datganiad, er bod hyn yn gadarnhaol, mae heriau o'n blaenau. Er mwyn cyflawni ein hail gyllideb garbon ar gyfer 2021-26 mae angen inni gyflawni yr ymrwymiadau a wnaed, megis treblu ein targed adfer mawndir, a datblygu polisïau pellach i gyflymu y camau gweithredu. Mae'r Pwyllgor wedi ein cynghori bod yn rhaid inni adeiladu ar gynnydd cadarnhaol a chymryd camau pellach nawr er mwyn bod ar y trywydd iawn i barhau i gyrraedd ein targedau ar gyfer ail hanner y degawd hwn.
Rwy'n croesawu adroddiad Cynnydd annibynnol y Pwyllgor Newid Hinsawdd: Lleihau allyriadau yng Nghymru 2023. Yn yr adroddiad, rwy'n falch bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi cydnabod ble rydym wedi gwneud cynnydd, megis y cynnydd ar gynllunio ynni lleol, datblygu ein cynllun sgiliau, y "penderfyniadau sylweddol a chanmoladwy" i newid i derfyn cyflymder diofyn o 20mya a chyflwyno gofynion amgylcheddol ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol, a'r gydnabyddiaeth bod ein ffocws ar deithio llesol yn gwneud gwahaniaeth, gyda Cymru wedi ymrwymo mwy o gyllid y pen i deithio llesol na Llywodraeth y DU.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r pwyllgor am nodi'r meysydd hynny y dylem eu blaenoriaethu ar gyfer gweithredu pellach. Mae cyfres o gamau gweithredu wedi'u cymryd ers i'r adroddiad gael ei ddatblygu a fydd yn cyfrannu at gyflawni argymhellion y Pwyllgor.
Gwnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd sylw ar ein cynlluniau i ddatgarboneiddio adeiladau cyhoeddus a chartrefi rhent cymdeithasol, gan ddisgrifio'r angen am gynllun manwl ar gyfer darparu mesurau effeithlonrwydd ynni a gwres carbon isel.
Yn dilyn ymgynghori ac ymgysylltu dwys â'r sector, rydym yn disgwyl cyhoeddi safon Ansawdd Tai newydd i Gymru yr hydref hwn. Byddwn hefyd yn cyhoeddi manylion y Rhaglen Cartrefi Cynnes newydd cyn bo hir.
Nodir bod yr angen am gymorth ariannol amaeth-amgylcheddol i hwyluso'r broses bontio i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn flaenoriaeth arall, yn ogystal â chyflymu'r gwaith o greu coetiroedd yng Nghymru. Rydym wedi ymestyn contractau amaeth-amgylcheddol presennol ar gyfer 2023 ac mae cynlluniau newydd wedi'u rhoi ar waith i annog mwy o blannu tan 2025, gan gynnwys y grant creu coetiroedd, grant Buddsoddi a'r cynllun coetiroedd bach.
Hyd yn oed mewn meysydd lle gwnaed cynnydd da mae'r pwyllgor yn galw arnom i wneud mwy. Mae hyn yn cynnwys meysydd dadleuol fel yr angen i leihau allyriadau o amaethyddiaeth a'r angen i leihau lefelau traffig ymhellach. Rydym yn glir o ran hyn - rydym yn cytuno gyda'r pwyllgor mai nawr yw'r amser i gryfhau ein bwriad i wneud penderfyniadau anodd, ac nid yr amser i dynnu sylw oddi ar y mater neu i oedi yn ôl dadl beirniaid yr agenda amgylcheddol. Gobeithiwn y gall yr adroddiad hwn helpu i sicrhau mwy o gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd ar gyfer mesurau i leihau allyriadau a mesurau sy'n helpu y rhai y mae’r newid yn effeithio arnynt, i addasu.
Rydym wedi ceisio cymryd agwedd tîm Cymru, gyda chynllun Cymru, nid cynllun Llywodraeth Cymru yn unig. Rwy'n falch o weld y Pwyllgor yn tynnu sylw at rôl bwysig eraill gan gynnwys Llywodraeth y DU yn rhai o'n sectorau allyrru mwyaf megis Ynni, Diwydiant a Thrafnidiaeth. Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Lywodraeth y DU rôl allweddol yn rhai o'n meysydd datganoledig ac mae'n tynnu sylw at y ffaith bod risgiau sylweddol yn sgil diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU mewn meysydd fel adeiladau, effeithlonrwydd ynni a gwres carbon isel mewn cartrefi nad ydynt yn rhai sy'n dlawd o ran tanwydd. Byddaf yn parhau i bwyso ar Weinidogion y DU i gymryd y camau gweithredu o fewn eu cyfrifoldebau a fydd yn galluogi cyflawni datgarboneiddio tra'n diogelu cyfiawnder cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys datblygu mecanweithiau pellach i ysgogi adnewyddu tai a datgarboneiddio ar raddfa fawr a chreu'r pecynnau cyllido sydd eu hangen i alluogi a chymell diwydiant yng Nghymru i ddatgarboneiddio.
Mae newid yn yr hinsawdd yn gofyn i bawb weithredu. Nawr mae'r ffocws ar ddarparu Cymru Sero Net. Rwy'n croesawu'r adroddiad a byddaf nawr yn ystyried ei gasgliadau yn ofalus cyn cyhoeddi ein hymateb cyn diwedd y flwyddyn.