Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Heddiw, rwy'n falch o gyflwyno'r Adroddiad Cynnydd ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, sy'n dangos y cynnydd a wnaed hyd yma ac sy'n amlinellu'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd rhwng nawr a mis Mai 2026 i gyflawni canlyniadau disgwyliedig Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae. Mae cynnydd da wedi'i gyflawni yn erbyn y chwe deg saith o gamau gweithredu a amlygwyd, gyda phedwar deg wyth o gamau gweithredu tymor byr, canolig a thymor hir wedi'u cwblhau a ffocws parhaus ar fwrw ymlaen â'r pedwar ar bymtheg o gamau gweithredu tymor canolig a hirdymor sy'n weddill.
Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi ein huchelgais o wella argaeledd cyfleoedd chwarae a gwella ansawdd mannau chwarae, gan greu mannau chwarae cynhwysol a hygyrch.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb derfynol ar gyfer 2025-2026 ar 20 Chwefror 2025 ac mae’n cynnwys cyllid pellach o £5 miliwn i lywodraeth leol i wella meysydd chwarae a chyfleusterau chwarae i blant.
Dim ond drwy weithio ar y cyd y gellir cyflawni ein huchelgeisiau, a hynny ar draws meysydd polisi Llywodraeth Cymru, a chyda rhanddeiliaid allweddol yn y meysydd canlynol: eirioli dros bwysigrwydd hawl plant i chwarae; hyrwyddo manteision chwarae er lles plant; a sicrhau bod plant yn cael digon o gyfleoedd i chwarae.
Hoffwn ddiolch i Chwarae Cymru, yr awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill am eu cefnogaeth barhaus i chwarae plant, gan gefnogi ein huchelgeisiau i wireddu'r freuddwyd o Gymru'n dod yn wlad lle mae cyfle i chwarae yn realiti. Rydym eisiau gweld Cymru sy'n gweithredu dros bob plentyn – Cymru lle gall pob babi a phlentyn ifanc ffynnu, ynghyd â'u teuluoedd a'u cymunedau, trwy gyfleoedd a phrofiadau cyfoethog i chwarae.