Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2022, y cyhoeddiad diweddaraf yn ein cyfres o adroddiadau ar Gynhyrchu Ynni yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau cynhyrchu ynni. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i fesur ein cynnydd yn erbyn ein targedau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Mae'r adroddiad yn dangos y cynnydd cadarnhaol parhaus y mae Cymru yn ei wneud er gwaethaf y dirwedd ariannol anodd y mae'n rhaid i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ymdopi â nhw. Mae adroddiad 2022 yn cadarnhau bod 59% o'r ynni rydym yn ei ddefnyddio yng Nghymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, cynnydd o bedwar y cant o'i gymharu â 2021, a chynnydd calonogol ar y cynnydd tuag at ein targed o 70% erbyn 2030.
Rydym yn falch iawn o'r gefnogaeth gyson a chynhyrchiol rydym wedi'i darparu ar gyfer ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol, ac mae'r adroddiad yn adlewyrchu hyn drwy nodi bod capasiti a pherchenogaeth yn y sector hwn wedi cynyddu saith y cant ers adroddiad 2021. Gallwn bellach ymfalchïo mewn amcangyfrif o 970MW o osodiadau ynni adnewyddadwy o dan berchnogaeth leol, 97% o'n targed ni ar gyfer 2030.
Fodd bynnag, mae'r sector ynni adnewyddadwy yn dioddef o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU. Rydym yng nghanol argyfwng newid hinsawdd ac mae'r arwyddion yn glir, oni bai ein bod yn gweithredu ar frys, byddwn yn gwneud niwed i'n planed na fydd modd ei wrthdroi. Rydym, unwaith eto, yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno mecanwaith ariannol a fydd yn ysgogi'r farchnad yn ddigonol, ac i beidio â cholli'r cyfle hwn i greu diwydiant ynni adnewyddadwy sy'n arwain y byd ac sy'n dangos ymrwymiad y wlad i sero net.
Rydym eisoes yn gweld canlyniadau rhai o'r cyfleoedd mae Llywodraeth y DU wedi'u colli i ddatblygu ynni adnewyddadwy ar y môr ledled y DU. Drwy fethu ag ymateb i amodau marchnad sy'n newid, a hynny mewn modd mor helaeth, mae Llywodraeth y DU wedi dangos ei diffyg dealltwriaeth o'r cyfleoedd diwydiannol y mae ynni morol ac ynni gwynt ar y mor yn eu rhoi.
Yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy, fel y dangosir gan ein cyhoeddiad i ailosod ein targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy, gan gynnwys targed i ddiwallu 100% o'n hanghenion trydan drwy ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Adroddiad y flwyddyn nesaf fydd y cyntaf sy'n dangos y cynnydd rydym wedi dechrau ei wneud tuag at ein targedau newydd.
Mae bellach yn bwysicach nag erioed ein bod yn bachu ar y cyfle i gael gwared ar ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r her hon, wrth hefyd hyrwyddo twf yn y diwydiant swyddi gwyrdd. Mae'r dystiolaeth yn glir, rhaid inni sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.