Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf nodi bod rhifynnau diweddaraf yr adroddiadau Cynhyrchu Ynni yng Nghymru a'r Defnydd o Ynni yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi.  Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi darlun clir a thryloyw o berthynas Cymru ag ynni, ac maent yn fesur cyson yn erbyn y cynnydd gweladwy o ran cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni a newid yn yr hinsawdd.

Am y tro cyntaf ers dros 200 mlynedd, ni wnaeth Cymru ddefnyddio glo yn ei chymysgedd cynhyrchu ynni. Wrth i ni geisio symud at system ynni adnewyddadwy yng Nghymru, mae'n galonogol bod 56% o'n galw am drydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy. Mae hynny i fyny o 51% yn 2019 ac yn cymharu â'n targed o 70% erbyn 2030. Mae'r adroddiadau'n tynnu sylw at yr arbedion effeithlonrwydd yr ydym eisoes wedi'u cyflawni, yn enwedig ym maes diwydiant o ran lleihau'r defnydd o ynni sy'n hanfodol ar draws cymdeithas gyfan i gyflawni Sero Net. Fodd bynnag, mae angen gwneud cynnydd enfawr o hyd, ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran lleihau ein defnydd o ynni a phontio i ynni adnewyddadwy. 

Rwyf wedi fy nghalonogi gan y canfyddiadau yn y ddau adroddiad hyn, ond mae angen gwneud mwy i ddatgarboneiddio ein system ynni a chyflawni ein nodau Sero Net.  Rhaid inni gyflymu'r broses o bontio oddi wrth bob tanwydd ffosil ac adeiladu cymdeithas wyrddach a thecach.   Bydd y gwaith parhaus sy'n gweithredu argymhellion y gwaith ymchwil manwl ar ynni adnewyddadwy yn cefnogi ein huchelgais i gynyddu'r broses o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru mewn modd sy'n sicrhau'r manteision economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl i bobl Cymru.

Gwnaethom ymrwymo i ddiweddaru ein targedau adnewyddadwy yn Cymru Sero Net ac mae'r adroddiadau hyn yn rhan bwysig o'r sylfaen dystiolaeth i lywio'r targedau hynny. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ein gwaith ar y targedau hynny maes o law.