Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2023, sef y cyhoeddiad diweddaraf yn ein cyfres o adroddiadau ar Gynhyrchu / Defnyddio Ynni yng Nghymru.

Hoffwn ailadrodd ein hymrwymiad i gefnogi'r sector a datblygu polisïau i'n helpu i gyrraedd ein targedau o ran ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ein gweledigaeth i ddiwallu'r hyn sy'n cyfateb i 100% o'n hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae gwaith yn parhau i leihau'r rhwystrau i benderfyniadau cynllunio, yn ogystal â chytundeb sector a'r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer gwynt ar y môr. Bydd y gweithgarwch hwn yn llywio ein huchelgais ar gyfer proses bontio deg a chyfiawn yng Nghymru, gan sicrhau bod manteision yr ynni adnewyddadwy hwn yn cael eu cadw yng Nghymru, er lles y cyhoedd yng Nghymru.

Rydym wedi cymryd camau i ddiwygio'r system gynllunio gan ei gwneud yn symlach ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, i ddirprwyo penderfyniadau ar gyfer prosiectau ar raddfa lai ac i hybu adnoddau ar draws y system gynllunio a chydsynio. Mae Cymru yn cynnal llif cadarn o brosiectau ynni adnewyddadwy.

Mae'r adroddiad yn rhoi syniad da o'n trywydd o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Rwy'n falch iawn ein bod eisoes wedi cyrraedd ein targed o gynhyrchu 1GW o ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol yng Nghymru erbyn 2030. Mae sicrhau bod cymaint o'r ynni rydym yn ei gynhyrchu yn eiddo i Gymru yn allweddol ar gyfer cadw budd a gwerth yng Nghymru. Bydd gweithgarwch Llywodraeth Cymru dan arweiniad Trydan Gwyrdd Cymru ac Ynni Cymru yn sicrhau bod Cymru'n cadw cyfran fwy o fanteision yng Nghymru a bod cymunedau'n gweld manteision cynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol yng Nghymru. 

Rhagwelir y bydd y galw am drydan bron yn treblu erbyn 2050 oherwydd ein gwaith trydaneiddio a datgarboneiddio. Felly, mae angen i ni barhau i ymdrechu i gyrraedd ein targedau flwyddyn ar ôl blwyddyn a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni i arwain y ffordd o ran cynhyrchu trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy yn unig.