Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fe welwn gyhoeddi heddiw ddau adroddiad ar wahân am ein consortia addysg rhanbarthol sydd newydd eu sefydlu er mwyn gwella ysgolion.

Diben yr adroddiadau oedd rhoi diweddariad ar gynnydd y consortia o ran gwella ysgolion a threfniadau llywodraethu’r consortia.

Croesawaf y cynnydd a nodir yn y ddau adroddiad o ystyried mai dim ond ym mis Ebrill 2014 y dechreuwyd rhoi’r Model Cenedlaethol ar waith. 

Wrth ystyried datblygiad y consortia, mae’n rhaid inni gofio pa mor gyflym y mae pethau wedi newid ers mis Ebrill 2014; mae pethau yn dal i newid yn gyflym wrth i’r sefydliadau hyn
barhau i ddatblygu. Croesawaf yr adborth cadarnhaol sydd i’w weld yn yr adroddiadau hyn a’r sylw cyffredinol fod pethau’n gwella.

Er enghraifft, mae adroddiad Estyn yn nodi, er na ellir priodoli’r gwelliannau cyffredinol yn safonau cyrhaeddiad disgyblion dros y tair blynedd ddiwethaf i ddatblygiad consortia rhanbarthol yn unig, fod y data a gyhoeddwyd yn dangos gwelliant graddol yng nghyrhaeddiad disgyblion ym mhob un o’r pedwar rhanbarth. Mae hefyd yn nodi bod cynlluniau busnes pob consortiwm ar gyfer 2014-15 yn canolbwyntio yn briodol ar y meysydd pwysicaf ar gyfer gwella.

Mae Estyn hefyd yn adrodd bod y consortia wedi ymgysylltu’n effeithiol â swyddogion awdurdodau lleol, arweinwyr ysgolion ac undebau llafur wrth ddatblygu eu blaenoriaethau rhanbarthol a’u polisïau i wella ysgolion, a bod y trefniadau sicrhau ansawdd ar gyfer ymgynghorwyr her wedi cael eu cryfhau, gan sicrhau mwy o gysondeb yng ngwaith yr ymgynghorwyr.

Mae’n braf nodi bod y consortia yn gwybod gan amlaf sut y mae eu hysgolion yn perfformio trwy waith yr ymgynghorwyr her, a gefnogir gan eu dadansoddiad o ddata cyrhaeddiad a bod y rhan fwyaf o’r penaethiaid a chadeiryddion y llywodraethwyr yn nodi bod yr ymgynghorwyr her yn craffu ar berfformiad eu hysgol yn fanwl a theg.

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn dod i’r casgliad “after an uncertain start, the foundations for regional school improvement services are being established and there are positive signs of progress but remaining weaknesses are hindering the development of the whole system and the effective governance and financial management of the consortia.”

Mae’n bwysig nodi bod yr adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi ymhen peth amser ar ôl cwblhau’r gwaith maes. Rwy’n falch o nodi, fodd bynnag, fod y consortia yn dal i wneud cynnydd mawr. Er enghraifft, o ran strategaethau i fynd i’r afael ag amddifadedd, mae pob consortiwm wedi defnyddio dulliau gwahanol o gefnogi ysgolion i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol. Mae’r consortia wedi cydnabod yr angen i ddatblygu sgiliau eu staff a/neu eu hymgynghorwyr her. I hwyluso hyn rhoddodd Llywodraeth Cymru £50,000 i bob consortiwm tua diwedd 2014-15 er mwyn cynyddu eu gallu.

Fodd bynnag, rwy’n derbyn bod rhai materion o bwys o hyd y mae angen i’r consortia a Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â hwy. Credaf fod y ddau adroddiad hyn yn mynegi’r meysydd hyn yn dda.

Mae adroddiad Estyn yn pwysleisio, er bod cynlluniau busnes y consortia yn canolbwyntio ar feysydd i’w gwella, nad ydynt yn nodi’n ddigon clir pa effeithiau a ddisgwylir o ganlyniad i weithrediadau a sut y bydd hyn yn cael ei fesur.

Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at waith y mae angen ei wneud i fynd i’r afael â gwendidau lle nad yw pwyllgorau craffu yn dal uwch swyddogion a chynrychiolwyr i gyfrif yn ddigon da i gyflawni eu swyddogaeth o sicrhau bod y consortiwm yn diwallu anghenion ysgolion yr awdurdodau.

Mae Estyn hefyd wedi adrodd, er bod gan y consortia drefniadau addas i rannu â’r awdurdodau wybodaeth am lawer o feysydd gwasanaeth, nad oes gan yr un ohonynt system sydd wedi’i datblygu’n llawn ac a ddefnyddir yn gyson i goladu, dadansoddi a rhannu gwybodaeth am gynnydd disgyblion mewn ysgolion ac nid oes gan un rhanbarth ymagwedd strategol ystyrlon i leihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad.

Er fy mod yn derbyn y pwynt a wna Estyn sef fod y consortia wedi bod yn araf o ran rhoi trefniadau llywodraethu ar waith yn llawn, rwy’n derbyn hefyd ei bod yn rhy gynnar i farnu pa mor effeithiol yw’r trefniadau llywodraethu hyn, yr uwch arweinwyr a rheolaeth y consortia.

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn pwysleisio bod angen gwaith pellach i egluro nifer o bwyntiau gweithredol o ran swyddogaethau a chyfrifoldebau, cynllunio hirdymor, cynaliadwyedd ar lefel yr uwch reolwyr a swyddogaethau craffu.

Mae adroddiad Estyn wedi gwneud 13 o argymhellion ac mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwneud 5 ac at ei gilydd mae canfyddiadau’r ddau adroddiad yn cytuno ac yn atgyfnerthu’r darlun cyffredinol sy’n cael ei gyflwyno.

Yn benodol, rwy’n derbyn bod gwir angen symud at gyfnodau cynllunio hwy ar gyfer y consortia a bod cyfnodau byr y cynlluniau wedi creu rhywfaint o ansicrwydd ynghylch dyfodol y consortia (yn enwedig o ystyried mater parhaus newid mewn llywodraeth leol).

I grynhoi, rwy’n derbyn yr argymhellion a wneir gan y rheoleiddwyr a gallaf sicrhau Aelodau o’r Cynulliad fy mod wedi ymroi i sicrhau y bydd fy swyddogion yn cydweithio â’r consortia a’r awdurdodau lleol i’w helpu i fynd i’r afael â’r materion hyn a’r argymhellion a wneir gan Estyn a chan Swyddfa Archwilio Cymru.

www.estyn.gov.uk/english/thematic-reports/recent-reports/

www.audit.wales