Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddais Bapur Gwyn 'Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus' oedd yn pennu ein cynigion i ddeddfu i ddiwygio'r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau bws lleol a thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat.

Yr hyn oedd yn ganolog i'r cynigion oedd ein hymrwymiad i ddarparu'r dulliau cyfreithiol o alluogi awdurdodau lleol i gydweithio, a gyda cwmnïau bysiau, i ymateb yn hyblyg i anghenion y gymuned leol; gan deilwra'r dull o weithio i wahanol amgylchiadau a heriau.  Rydym yn credu y bydd y cynigion hyn yn helpu inni gyflawni ein huchelgais o system drafnidiaeth integredig sy'n ddiogel, yn ddibynadwy, ar amser, yn gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn hygyrch, gan fodloni anghenion y cyhoedd sy'n teithio.

Cafwyd 564 o atebion ysgrifenedig yn ystod y cyfnod ymgynghori, a heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi adroddiad cryno o'r ymatebion hynny. Rwyf hefyd yn cyhoeddi'r ymatebion ar yr un pryd â'r adroddiad sydd i'w weld ar https://llyw.cymru/gwella-trafnidiaeth-gyhoeddus.

Ar y cyfan, roedd cefnogaeth gyffredinol gan randdeiliaid i'r cynigion sydd wedi'u pennu yn y Papur Gwyn.  Yn benodol, roedd cefnogaeth sylweddol i'r cynnig sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol wrth ystyried darparu gwasanaethau bysiau yn eu hardal, gyda nifer o ymatebwyr yn cynnig sylwadau ar sut y dylid gweithredu'r cynigion hyn. O ran tacsis a cherbydau hurio preifat, er bod cefnogaeth gyffredinol i'r cynnig sy'n gysylltiedig â safonau cenedlaethol, gorfodi a rhannu gwybodaeth, roedd teimlad cryf gan awdurdodau lleol a'r diwydiant nad yw cynigion y Papur Gwyn yn mynd ddigon pell i fynd i'r afael â'r problemau sy'n cael eu hwynebu gan y diwydiant. Roedd adborth cymysg hefyd o ran cynigion y Cyd-awdurdod Trafnidiaeth.  Er bod rhywfaint o gefnogaeth i ddarparu gwasanaeth bws rhanbarthol, nid oedd cefnogaeth i'r dull hwn o weithio o ran gweithredu swyddogaethau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio.  

Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb dreuliodd amser yn paratoi eu hymatebion i'r ymgynghoriad ac a oedd yn bresennol yn y digwyddiadau ymgynghori. Byddaf yn parhau i ystyried y sylwadau a'r adborth yn ofalus wrth inni ddatblygu ein cynigion yn y maes hwn. 

Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y gwaith hwn maes o law.