John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Cafodd Dyfodol ein gorffennol: Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru ei gyhoeddi ar 18 Gorffennaf 2013, a daeth y cyfnod ymgynghori 12 wythnos i ben ar 11 Hydref 2013. Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad cryno ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac amgaeaf gopi er gwybodaeth i Aelodau’r Cynulliad. Cyhoeddir yr adroddiad ochr yn ochr â’r ymatebion ar dudalen ymgynghori gwefan Llywodraeth Cymru yn nes ymlaen heddiw.
Cafwyd ymateb rhagorol i’r ymgynghoriad, gyda 177 o ymatebion ysgrifenedig yn dod i law. Roedd llawer ohonynt yn cynnwys sylwadau treiddgar a manwl sy’n dangos yn glir pa mor bwysig yw’r amgylchedd hanesyddol i bobl Cymru. Hefyd cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ar gyfer pobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol, yn eu plith pedwar digwyddiad ymgynghori ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth Bagloriaeth Cymru, gyda 187 o ddisgyblion o wyth ysgol yn y Gogledd ac yn y De yn cymryd rhan. Drwy weithgareddau ymarferol, cafodd y bobl ifanc hyn eu hannog i ystyried pwysigrwydd yr amgylchedd hanesyddol ac i edrych ar nifer o faterion sy’n ganolog i’r gwaith o’i reoli mewn modd cynaliadwy. Hefyd, yn ystod y cyfnod ymgynghori, cynhaliwyd dau weithdy ar gyfer rhanddeiliaid allweddol, un ohonynt yn edrych yn fanwl ar ddyfodol y trydydd sector yng Nghymru, a’r llall yn edrych ar y cynigion ar gyfer dyfodol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Cadw. Yn ogystal â’r rhain, cafodd cyflwyniadau a thrafodaethau eu cynnal mewn fforymau cynllunio allweddol.
Roedd y ddogfen ymgynghori, a seiliwyd ar y gwaith ymgysylltu eang a wnaed yn 2012, yn cynnwys amrywiaeth fawr o gynigion ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol. Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad, ynghyd ag ymchwil a gwaith datblygu polisi ychwanegol, yn cael eu defnyddio i nodi’r dulliau mwyaf priodol ar gyfer gweithredu’r cynigion hynny. Mewn rhai achosion, bydd angen cyflwyno newidiadau i’r ddeddfwriaeth, ond mewn achosion eraill, llunio canllawiau a chamau ymyrryd eraill fydd fwyaf priodol.
Gan mwyaf, roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cadarnhau ein bod ar y trywydd iawn gyda’n dulliau gweithredu o ran sicrhau bod ein hamgylchedd hanesyddol yn cael ei ddiogelu a’i fod ar gael i bawb fanteisio arno. Dywedodd llawer o bobl y bydd y cynigion o gymorth i’w reoli mewn modd cynaliadwy ymhell i’r dyfodol. Hefyd, mae’n glir o ddarllen llawer o’r ymatebion y bydd y canllawiau gwell sydd wrthi’n cael eu datblygu ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy, yr un mor bwysig â’r newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth.
Y cynigion y cafwyd y gwahaniaeth barn mwyaf yn eu cylch oedd y rheini a oedd yn ymwneud â’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau’r amgylchedd hanesyddol ar lefel genedlaethol a dyfodol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Cadw. Nid oedd unrhyw gonsensws clir ynglŷn â’r cynigion hyn, a byddaf yn gwneud datganiad yn y cyfarfod llawn yfory, 14 Ionawr 2014, ynghylch y camau y gellid eu cymryd.
Edrychaf ymlaen at ddatblygu’r cynigion sydd yn y ddogfen ymgynghori yn ystod y flwyddyn nesaf, cyn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn 2015.