Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Mae’n bleser cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2019-20 strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Dyma’r trydydd tro i ni adrodd ar ein cynnydd wrth weithredu ein strategaeth hirdymor ar gyfer y Gymraeg.
Rwy’n falch iawn o’r cyfle i rannu’r gwaith rydym wedi’i wneud yn gweithredu amcanion y strategaeth dros y flwyddyn ddiwethaf gydag Aelodau heddiw.
Eto eleni, rydym yn nodi ein cynnydd yn erbyn tair thema strategol Cymraeg 2050:
- Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr
- Thema 2: Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
- Thema 3: Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun
Braf yw adrodd ein bod wedi llwyddo i gryfhau’r sylfeini angenrheidiol a osodwyd gennym yn ystod 2018-19. Rydym wedi gwneud hyn drwy weithio ar draws y Llywodraeth, gyda’n partneriaid grant ac yng nghalon ein cymunedau ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â mewn e-gymunedau lu.
Mae’r adroddiad yn gyfle i edrych yn ôl ar flwyddyn ariannol 2019-20. Wrth gwrs, mae llawer iawn wedi newid ers mis Mawrth eleni, ac er bod cyd-destun ein gwaith wedi newid yn ddramatig ers i ni lansio Cymraeg 2050 yn ystod haf 2017, mae ein blaenoriaethau strategol wedi aros yr un fath. Yn bendant, mae COVID-19 wedi cyflwyno heriau newydd, ond mae hefyd wedi creu llawer o gyfleoedd hynod gyffrous. Rwy’n credu’n gryf bod y gwaith caled sydd wedi’i wneud eisoes yn gosod sylfaen gref i’r llywodraeth nesaf barhau â’n gweledigaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.