Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru
Mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Iaith Gymraeg, a fabwysiadwyd o dan adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu, wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru, cyn belled ag y bo'n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ac yn ymarferol, i’r egwyddor y dylai'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin ar sail eu bod yn gyfartal.
Heddiw, rwyf wedi cytuno i gyhoeddi adroddiad blynyddol y Cynllun Iaith Gymraeg ar gyfer 2013-14. Mae’n dangos ymrwymiad clir Llywodraeth Cymru i’r iaith Gymraeg a’n bod yn benderfynol o’i gweld yn ffynnu. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r prif ddatblygiadau, llwyddiannau a heriau wrth weithredu’r Cynllun Iaith dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae hefyd yn amlinellu’r cyfleoedd a heriau ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n gosod allan y prif feysydd i’r sefydliad weithredu fel yr ydym yn symud tuag at weithredu’r safonau.